google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-gynhyrchydd BBC, Dylan Dawes, yn gwadu bod â delweddau anweddus o blant

Advertisements

Pan gafodd Mr Dawes ei holi gan yr heddlu eto, rhannodd ddatganiad ysgrifenedig oedd wedi ei baratoi ymlaen llaw gan ddweud nad oedd ganddo “unrhyw wybodaeth am unrhyw ddelweddau anweddus gafodd eu darganfod ar fy nyfeisiau”.

Ychwanegodd nad oedd “erioed wedi gweld, cael mynediad at nac wedi lawrlwytho pornograffi plant yn fwriadol”, cyn dweud nad oedd ganddo “unrhyw ddiddordeb rhywiol mewn plant” ond ei fod wedi “lawrlwytho pornograffi rheolaidd” o bryd i’w gilydd yn y gorffennol.

Dywedodd Mr Dawes wrth yr heddlu hefyd, “ar wahanol adegau, fod yr holl ddyfeisiau wedi cael eu gadael am gyfnodau hir mewn swyddfeydd cynllun agored ac nid yn fy meddiant”.

Atebodd “dim sylw” i gwestiynau pellach, gan gynnwys cwestiwn am pam yr oedd wedi dweud yn flaenorol bod un ddyfais heb adael y tŷ, ac a oedd yn gallu dweud pwy oedd wedi defnyddio’i ddyfeisiau i lawrlwytho pornograffi plant.

Mae Mr Dawes yn wynebu tri chyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant, yng nghategorïau A, B a C, wedi’u dyddio i 28 Chwefror 2022 – y diwrnod y cafodd ei arestio a’i ddyfeisiau eu hatafaelu.

Mae tri chyhuddiad arall yn ei erbyn o greu delweddau anweddus o blentyn, rhwng 2006 a 2022, sy’n ymwneud â delweddau y mae’r erlyniad yn dweud nad oedden nhw ar y dyfeisiau pan gafodd ei arestio, ond yn ymwneud â delweddau gafodd eu hadfer yn ddiweddarach.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau ac mae’r achos yn parhau.


BBC News

See also  AIG Women's Open: Lydia Hall secures place at Royal Porthcawl

Check Also

Arestio bachgen, 14, ar amheuaeth o geisio creu dyfais ffrwydrol

Mae bachgen 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio creu dyfais ffrwydrol …

Cwmbran man ‘pushed off pub stage’ before death, inquest told

A 102-year-old man with dementia who was allegedly pushed at a Cwmbran pub died nearly …

Dyn 102 oed wedi marw ar ôl cael ei ‘wthio’ mewn tafarn – cwest

Dywedodd y crwner fod yr heddlu yn dal i ymchwilio i farwolaeth Philip Ormerod, bod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime