google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘San Steffan yn trin Cymru’n waeth na dinasoedd Lloegr’ – Elin Jones

Advertisements

Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn “synnu a rhyfeddu ambell waith” nad yw llywodraeth San Steffan bob amser “yn dangos y parch y dylen nhw i lywodraeth Cymru, yn enwedig i lywodraeth Cymru o’r un plaid â nhw.

“Yr hyn sy’n rhyfeddu fi’n aml yw gymaint, ambell waith, yn fwy o barch sydd gan lywodraeth San Steffan at rai o’r dinasoedd neu siroedd yn Lloegr, yn barod i drafod datganoli pellach i’r dinasoedd a siroedd hynny”.

Er bod Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn y Senedd am weld grymoedd dros heddlua a chyfiawnder yn cael eu datganoli, yn ôl Elin Jones mae llywodraeth Syr Keir Starmer yn fodlon “ystyried cryfhau’r pwerau hynny yn rhai o ddinasoedd Lloegr” ond nid yng Nghymru.

Dywedodd nad yw’r llywodraeth yn “barod i ystyried, a dweud y gwir yn dweud ‘na o’r foment cyntaf, i ystyried datganoli pellach ar gyfiawnder a heddlua i Gymru’.”

Dywedodd mai ei chyngor i’r llywydd nesaf yw y gallent deimlo weithiau “bod angen plesio pawb” ond fel llywydd “plesio neb sydd orau”.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y DU “maen nhw bob amser wedi cyflawni blaenoriaethau pobl ar draws pedair gwlad y DU ac mi fyddan nhw bob amser yn gwneud hynny”.

Fe ychwanegodd: “Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi datganoli cyllid cymorth cyflogaeth, pwerau rheoleiddio dŵr a phwerau treth tir i Gymru.

“Mae hefyd wedi diwygio’r fframwaith cyllidol i gryfhau pwerau gwario Llywodraeth Cymru ac wedi adfer rôl Llywodraeth Cymru o ran gwneud penderfyniadau am gyllid ôl UE.”


BBC News

Views: 1

See also  Portsmouth 0-0 Wrexham: Defensive improvement evident as Dom Hyam key for Phil Parkinson

Check Also

Gwrthwynebiad i wasanaeth trên newydd rhwng gorllewin Cymru a Bryste

Dywedodd Mark Hooper, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, eu bod yn “siomedig iawn” bod GWR …

Gardd goffa’r amlosgfa ‘yn rhywbeth positif wedi i ni golli ein merch’

Wedi iddi golli ei merch fach 26 mlynedd yn ôl, dywed mam o’r Bontnewydd ger …

Gwireddu breuddwyd o agor tafarn cwrw crefft yng Nghaergybi

Felly ai’r bwriad yw bod yn hwb Cymraeg yn y dref? “Mi fyddwn ni’n gyrchfan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Go beyond simple links with powerful features designed for creators.