google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Derek Evans o Fôn yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes 2026

Advertisements

Yn ôl Eryl Williams, sy’n rheolwr cymunedol ar y gogledd a’r canolbarth i’r Urdd, “mi allech ddweud mai Derek ydy ‘Mistar Urdd Ynys Môn”.

“Dyw Derek byth yn methu Eisteddfodau Rhanbarth Ynys Môn, ble mae’n brysur yn sicrhau bod trefniadau’r dydd yn rhedeg yn esmwyth a bod llwyfan teg i bob cystadleuydd.

“Yn lleol mae wedi cefnogi Uwch Adran Rhosmeirch, ac yn flynyddol mae’n gwirfoddoli gyda chystadlaethau celf yr Eisteddfod.

“Mae Derek hefyd yn wyneb cyfarwydd yng ngwersylloedd yr Urdd, gan iddo drefnu degau o deithiau er mwyn sicrhau bod plant ei ardal yn cael y cyfle i brofi awyrgylch byrlymus y gwersylloedd.

“Mae’n hen law ar drefnu, arwain a chefnogi digwyddiadau yn ei gymuned, ac yn ffigwr hynod boblogaidd yn ei ardal – yn enwedig ymysg y plant a’r bobl ifanc.

“Yn ei grynswth, mae ei gyfraniad yn enghraifft o wir wasanaeth gwirfoddol – cyson, ymarferol ac yn llwyr ymroddedig i ddatblygiad plant a phobl ifanc drwy’r Gymraeg a diwylliant yr Urdd,” meddai Mr Williams.


BBC News

Views: 2

See also  Reform UK's Nigel Farage says BBC 'infected with left-wing bias'

Check Also

Diogelu rhag troseddau ‘yn mynd ymhellach na giât at y fferm’

Mae pobl mewn ardaloedd cefn gwlad yr un mor debygol o ddioddef troseddau seibr â …

Ospreys close to signing the WRU’s new PRA deal – Lance Bradley

Ospreys have announced work on the redevelopment of St Helen’s stadium in Swansea will begin …

Mam o Gaernarfon yn poeni wrth i ‘gostau fynd i fyny o bob ongl’

Dywedodd Llywela Wharton o Gaernarfon, sy’n fam i bedwar o blant, bod costau bwyd, ynni …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime