google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Gwiriwch eich cod treth’ medd nyrs ar ôl talu bron i £3,000 yn ormod

Ar 19 Ionawr, fe ddywedodd CThEF wrth Ms Belby ei bod hi i fod i gael ad-daliad o £8,194.96 ar gyfer y flwyddyn dreth 2024-25.

Ond o fewn dyddiau i hynny dywedodd Ms Belby fod swyddog wedi cysylltu â hi i ddweud bod y ffigwr yna’n anghywir

Roedd hi angen ailgyfrifo’r ad-daliad gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar ei ffurflen P60 – dogfen sy’n dangos y dreth rydych chi wedi’i thalu ar eich cyflog yn ystod y flwyddyn ariannol.

“Pan ffoniais i ym mis Hydref, ‘nes i roi fy ffigyrau P60 iddyn nhw a gallen nhw fod wedi cyfrifo’r ad-daliad bryd hynny a’i roi i mi,” meddai.

Ar ôl ailgyfri’r ffigwr, dywedodd CThEF wrthi ei bod mewn gwirionedd i fod i gael ad-daliad o £2,863.04 ac fe dderbyniodd y tâl hwnnw ddiwedd mis Ionawr.

“Fy neges i yw gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio’ch cod treth,” meddai Ms Belby, sydd eisiau sicrhau nad yw pobl eraill yn gordalu miloedd o bunnoedd.

“Gwnewch yn siŵr ei fod yn iawn oherwydd os yw e wedi digwydd i mi, mae’n sicr yn digwydd i fwy o bobl.”


BBC News

Advertisements

See also  Ethan Ives-Griffiths 'wedi'i fethu' gan y system cyn ei farwolaeth - modryb

Check Also

Sut i redeg (a thorri recordiau) fel Angharad Mair

A hithau wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd bellach, mae’n siŵr y byddech chi’n tybio …

Cardiff half marathon runner dies

A runner has died after taking part in the Cardiff Half Marathon. Event organisers Run4Wales …

Rhaid parhau i adeiladu ffordd liniaru’r M4 yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig

Roedd adolygiad yn 2023 yn argymell peidio â pharhau gyda’r cynlluniau ar gyfer trydedd bont, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime