google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Cartref wedi’i ddifetha ar ôl i degan fynd ar dân ar Ddydd Nadolig

Mae’r teulu mewn gwesty ar hyn o bryd wrth iddyn nhw aros i’r gwasanaeth tân asesu’r difrod.

Ers y digwyddiad, mae ymgyrch i godi arian er mwyn helpu’r teulu yn barod wedi derbyn mwy na £3,500 mewn rhoddion.

Dywedodd Ms Wood ei bod wedi’i “llethu’n llwyr gan garedigrwydd ffrindiau, teulu a dieithriaid”.

“Mae pobl mor anhygoel” meddai.

Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n derbyn cymaint o gariad a gofal. Fel teulu rydym yn ddiolchgar iawn.”

Ychwanegodd ei bod hi eisiau rhybuddio teuluoedd eraill am beryglon unedau batris y mae modd eu hail-wefru.

“Dydw i ddim eisiau i unrhyw un fynd trwy’r hyn rydyn ni wedi bod drwyddo” meddai.

“Os allai helpu unrhyw un i fod yn fwy gofalus, byddai hynny’n wych.

“Mae pobl yn prynu’r batris mawr yma, a ddim yn cael eu rhybuddio am ba mor beryglus ydyn nhw.

“Oes angen i rywun farw cyn iddyn nhw fod yn fwy gofalus gyda’u hagweddau diogelwch? Mae angen codi ymwybyddiaeth” meddai.


BBC News

Advertisements

See also  Trump administration will work to prevent banning Israel from international football | UK News

Check Also

Prince William says climate change makes UK wildfire risk terrifying

There is a “terrifying prospect” of more UK wildfires in future due to climate change …

Code cracked for Margam shipwreck padlock solving 400-year-old mystery

Dr David Williams, a research associate based at Cardiff University’s School of Engineering, said he …

Swansea City: Stephen Welsh knee injury adds to misery at Portsmouth

Matos said he was unsure what sparked the melee because he was “already inside”. But …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime