google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

O ddwy i ddeunaw: Ysgol Sul fyrlymus Ynys Môn

Advertisements

“Defod, ar y Nadolig, yw fod

Plant y festri, y bychain,

Yn cyflwyno yn ein capel ni

Ddrama y geni”

Dyna eiriau cyfarwydd Gwyn Thomas o’i gerdd Drama’r Nadolig. Mae’n olygfa sydd yr un mor gyfarwydd i ni â stori’r Nadolig ei hun – plant yr ysgol Sul yn y set fawr yn eu gwisgoedd lliwgar a’u tinsel.

Ond gyda niferoedd yn gostwng bob blwyddyn, beth yw dyfodol ysgolion Sul yng Nghymru?

Eleni fe aeth Cymru Fyw i weld paratoadau un Ysgol Sul yn Ynys Môn, sef Ysgol Sul Capel Ifan, Llannerchymedd – sydd, yn ôl aelodau’r capel, yn un o ddim ond pump Ysgol Sul sydd ar ôl ar yr ynys.

Teg dweud ei bod hi’n Ysgol Sul fyrlymus, gyda 25 o blant yn y cyngerdd eleni.

Linda Jones sydd wrth y llyw yno, ac mae’n ymfalchïo yn y plant a’r bobl ifanc a’u parodrwydd i gymryd rhan. Mae ystod oedran o ddyflwydd i 18 ymysg y rhai sy’n perfformio, gydag ambell un yn dychwelyd o’r brifysgol i gymryd rhan.

Dyma i chi gip ar y gwaith da maen nhw’n ei wneud yno.


BBC News

Views: 1

See also  Women's Cricket World Cup: Linsey Smith takes three quick wickets as England get off to flying start against South Africa

Check Also

Timm van der Gugten: 100-game bowler plans to stay at Glamorgan for ‘the long haul’

Bowler Timm van der Gugten says he is “really proud” to have reached a century …

Man 'fascinated by weapons' jailed after ninja sword and knuckle duster found

Maximin Carter also stored an air rifle and four telescopic truncheons in his ex partner’s …

Carcharu dyn am gadw arfau anghyfreithlon mewn eiddo

Clywodd y llys fod cyn-bartner Carter wedi cysylltu â’r heddlu yn codi pryderon am arfau …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonrank | free link building tool | automated seo backlinks.