google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged i fachgen 14 oed ‘anhygoel’ fu farw gydag MND

Advertisements

Mae rhieni bachgen 14 oed o Bontypridd fu farw o gyflwr motor niwron (MND) yr wythnos ddiwethaf wedi rhoi teyrnged i’w mab “anhygoel” ac “anghredadwy”.

Y gred yw mai Kyle Sieniawski oedd y person ieuengaf oedd yn byw â’r cyflwr yn y DU.

Roedd wedi bod yn dangos symptomau ers tro ond fe gafodd ddiagnosis yn gynnar yn 2025.

Fe ddatblygodd ei gyflwr yn gyflym a bu farw ddydd Iau, 27 Tachwedd.

Yn ôl ei fam, Melanie Sieniawski: “Roedd e’n wych, roedd ganddo bersonoliaeth dda ac roedd e wastad yn cael jôc!”

Dywedodd ei dad, Mark Sieniawski: “Roedd e’n llawn drygioni a direidi, ac roedd ei bersonoliaeth yn disgleirio.

“Roedd yn blentyn gwych, roedd yn anghredadwy.”

“Wnaeth o erioed gwyno am ei gyflwr,” ychwanegodd, “roedd e’n brwydro.”

“Pe bai e yma nawr heddiw, mae’n debyg y byddai e’n gwneud i chi chwerthin neu chwarae Connect 4,” meddai ei fam, “ond byddai e’n siwr o ennill!”


BBC News

Views: 1

See also  Six Nations - Wales 18-27 Ireland: Matt Sherratt interview

Check Also

The special friendship formed while receiving palliative care

Marie Curie said figures suggested there are more than 10,000 adults across Wales with unmet …

Nations Championship: Wales aim to turn tables on Argentina

Tandy recognises the challenge of travelling to play the Pumas represents a higher level for …

Cyfrol Mererid Hopwood yn cipio Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026

Cipiodd Manon Steffan Ros Wobr Plant a Phobl Ifanc gydag Y Cae Ras, nofel am …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq liquid.