google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Adroddiad Hillsborough yn ‘halen ar friwiau hallt iawn y teuluoedd’

Advertisements

Roedd Roger Edwards o Ruthun yn Hillsborough ar ddiwrnod y drychineb gyda’i fab 12 oed, Gareth, a dywedodd ei fod yn “teimlo braidd yn euog” bod ei fab wedi bod yno.

“‘Da ni yn poeni braidd bod Gareth y mab wedi gweld pobl yn y body bags pan o’n i’n cerdded allan o’r cae tua awr ar ôl i’r drychineb ddigwydd” meddai.

“Dwi’n teimlo braidd yn euog deud y gwir bo’ ni ‘di rhoi o trwy hwnna.”

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd nad oedd yn deall pam nad oedd yr heddlu wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd.

“Ar y diwrnod, be’ o’n i’m yn dallt oedd o’dd gynno’ ni seti ar y llinell hanner ac o’n i’n gallu gweld yn amlwg be’ o’dd yn digwydd ond o’dd yr heddlu o’dd yn sefyll reit o flaen Leppings Lane – ac o’dd o’n amlwg o’ nhw’n disgwyl am helynt a ddim yn gweld be’ o’dd yn digwydd.

“Os o’n i’n gweld o llai na 100 llath i ffwrdd pam o nhw ddim yn gallu gweld o.

“Dyna’r rheswm ddaru gymaint o bobl farw o nhw mor ara’ deg yn deall be’ odd yn digwydd”, meddai.

Ychwanegodd na fydd yr adroddiad yn gysur “achos o’n i’n flin hefo be’ sy’ ‘di dod allan yn barod” ond mae’n “gobeithio bydd y gwir yn dod allan o’r diwedd”.


BBC News

Views: 0

See also  Panorama

Check Also

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Roedd yr haul yn gwenu’n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn …

Man arrested as five people injured in crash

Three of the five were seriously injured and the arrested man is in custody. BBC …

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.