google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

O ffoi’r rhyfel yn Wcráin i astudio technoleg gofod yn 16 oed

Advertisements

Mae Kateryna yn fyfyriwr “eithriadol”, medd Dr Gregory Burwell – uwch-ddarlithydd yn adran ffiseg Prifysgol Abertawe.

“Dyma’r cyfnod preswyl cyntaf o’r fath yn CISM, ac mae ei llwyddiant wedi gosod meincnod uchel ar gyfer rhaglenni’r dyfodol,” dywedodd.

Cyfeiriodd at ei gwaith ar ffotofoltäig yn y gofod, lle mae ffotogelloedd yn troi golau haul yn drydan yn uniongyrchol.

Mae’r tywydd a chylch dydd a nos y Ddaear yn cyfyngu ar baneli ffotofoltaidd neu solar ar y tir ond mae paneli gofod yn wynebu’r haul ac yn gallu dal ynni solar 24 awr y dydd.

Byddai’r ynni sy’n dod o’r haul yn cael ei anelu i’r ddaear ble mae’n cael ei droi’n drydan.

Dywed Dr Burwell fod paneli solar ar doeau wedi eu gwneud o silicon “nad sy’n ddelfrydol yn y gofod oherwydd mae’n rhy drwm i amsugno digon o oleuni”.

Y nod felly yw “datblygu ffotofoltäig haen denau i greu mwy o bŵer gyda llai o bwysau, sy’n bwysig wrth anfon lloerennau i’r gofod”.

Ychwanegodd: “Mae gorchestion Kateryna’n dangos effaith rhoi adnoddau blaengar a mentora i fyfyrwyr talentog.”


BBC News

Views: 1

See also  'Wicked strike' from Pajor to bring Barcelona level

Check Also

Boy ‘brought back to life’ by rescuers at Bryngarw Country Park

A father-of-two rescued a toddler from drowning before two nurses brought the boy back to …

Dod â dawns i gartrefi gofal yng Nghymru

Dywedodd Siri, sy’n wreiddiol o Norwy ond rŵan yn byw yng Ngwynedd, bod un ddynes …

AS a gollodd ei mam pan yn fabi yn galw am gryfhau cyfraith plant mewn gofal

Ddydd Mercher mae ganddi ddadl yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Guinness world record yoga 2026.