google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

AI yn gallu lleihau llwyth gwaith athrawon, meddai Estyn

Advertisements

Gall deallusrwydd artiffisial (AI) leihau llwyth gwaith athrawon yn sylweddol a helpu disgyblion i ddysgu, ond mae angen canllawiau cliriach i ysgolion ar sut i’w ddefnyddio “yn ddiogel ac yn foesegol”, yn ôl yr arolygaeth addysg Estyn.

Mae adroddiad Estyn ar ddeallusrwydd artiffisial yn dweud bod rhai athrawon yn ei ddefnyddio i gynllunio gwersi, llunio llythyrau i rieni a chreu adroddiadau disgyblion, ymhlith tasgau eraill.

Ond mae rhai athrawon yn pryderu y gallai disgyblion fynd yn or-ddibynnol ar AI, tra bod eraill yn poeni am dwyllo neu lên-ladrad, yn ogystal â defnydd amhriodol o’r dechnoleg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen cydbwysedd rhwng defnyddio AI yn effeithiol, a diogelwch a lles disgyblion a staff.

Dywedodd Estyn bod rhai staff mewn ysgolion Cymraeg wedi sôn am bryderon am ansawdd gwael cynnyrch AI yn Gymraeg, “gan dynnu sylw at ddiffyg deunyddiau sy’n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol gywir”.

Roedd hyn, meddai’r athrawon, “yn creu rhwystr ychwanegol rhag defnyddio AI mewn modd effeithiol a chynhwysol mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg.”


BBC News

See also  Dydd Miwsig Cymru: Digwyddiadur - BBC Cymru Fyw

Check Also

Nofel am Hen Gymry gogledd Sbaen yn cael ei chyfieithu i’r Galiseg

O Aberystwyth yn wreiddiol, mae’r awdur wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers blynyddoedd maith ar ôl …

Awgrym bod cynghorau Cymru yn wynebu diffyg o fwy na £272m yn 2027-28

Dywedodd CLlLC: “Heb ddigon o gyllid, bydd cynghorau’n wynebu penderfyniadau anoddach wrth iddyn nhw geisio …

Wales: Budget pressures could mean further council tax rises

Education and social services make up the majority of spending by councils, with the past …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime