google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am iawndal gan y rhai sydd wedi elwa o sgandal Swyddfa’r Post

Advertisements

Awgrymodd Mr Jones, sy’n ymgyrchu i geisio digolledi’r teuluoedd, bod yn rhaid mynd ymhellach.

Roedd y cyn-gynghorydd yn is-bostfeistr yn Llanfarian ac ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion. Yn 2007 bu’n rhaid iddo dalu £20,000 i Swyddfa’r Post wedi i’r system Horizon ddangos, yn anghywir, bod arian ar goll o’i gyfrifon.

Wedi 18 mlynedd o frwydro am gyfiawnder fe gafodd iawndal yn gynharach eleni -ond mae’n parhau i frwydro dros eraill.

“Rwy’n falch iawn o’r llythyr i’r Prif Weinidog ac yn ei groesawu, ond mae angen mynd yn bellach,” meddai.

“Dyw e ond yn crafu’r wyneb i fynd ar ôl Fujitsu. Mae’n iawn i fynd ar eu holau nhw oherwydd dy’ nhw heb gyfrannu ceiniog o gwbl ond beth am y rhai oedd yn gweithio i’r Swyddfa Bost?

“Mae eu pension rights dal gyda nhw – ac roedden nhw’n cael bonuses am wneud yr holl beth, a fi’n credu dylai nhw roi’r arian yma i’r rhai sydd wedi ac sydd yn dal i ddiodde’.

“Nhw wnaeth brynu’r system. Roedd bai ar Fujitsu ond ble oedd due diligence y rhai yn y Swyddfa Bost oedd yn gyfrifol?”


BBC News

Views: 1

See also  Cyn-gynghorydd wedi gwneud sylwadau caethwasiaeth hiliol - ombwdsman

Check Also

Hannah Brier: Wales’ fastest woman criticises Commonwealth Games deadline

Brier had already run the Commonwealth B standard of 23.07 before the deadline but Team …

Pont y Borth: Heddlu i ddelio gyda gyrwyr sy’n torri cyfyngiadau pwysau

Mae’r cyfarwyddiadau, meddai, “wedi bod yn glir iawn… dim ond cerbyda’ o dan 7.5 tunnell …

I will find solution to M4 congestion, first minister says

Rhun ap Iorwerth said the Brynglas Tunnels in Newport are an “economic problem for Wales”. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.