google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llai o brynu ail gartrefi yng Ngwynedd ers rheol Erthygl 4

Advertisements

Ers Ebrill 2023 mae’n rhaid i berchnogion ail gartrefi yn y sir dalu premiwm treth cyngor o 150% ar eu heiddo.

Mae nifer o drigolion Morfa Nefyn wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod codi’r dreth, ynghyd ag Erthygl 4, yn golygu bod llai yn awyddus i fod ag ail gartref.

Ond nad ydy hynny wastad yn golygu fod y tai hynny yn fforddiadwy, wedyn.

Mae gan Nick Brown, sy’n dod o Sir De Efrog, ail gartref ym Morfa Nefyn ac mae felly yn talu’r dreth uwch.

“Dwi’n meddwl fod o wedi mynd ychydig yn rhy bell rŵan,” meddai.

“Dwi’n meddwl y broblem fwya’ ffordd hyn, ac allwch chi siarad efo unrhyw un lleol, ydi gwaith. Gwaith mae pobl yma eisiau.”

Mae’n dweud bod polisïau Cyngor Gwynedd wedi arwain at gartrefi’n colli peth o’u gwerth, a’i bod hi’n amlwg fod mwy yn gwerthu eu tai.

Mae’n cydnabod ei fod “yn rhan o’r broblem, o bosib”, ond yn dweud mai swyddi ddylai’r flaenoriaeth fod i gadw pobl ifanc yn lleol.


BBC News

Views: 0

See also  Ymchwiliad i ffaeleddau data Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Check Also

Newid polisi cludiant ysgol yn ‘rhwygo Llansannan yn ei hanner’

Er bod disgyblion uwchradd Llansannan hefyd wedi mynd i Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yn …

Louis Rees-Zammit: Wales wing says more to come for next season

Louis Rees-Zammit says he has not settled back into rugby as quickly as he would …

Hosepipe ban for parts of Wales likely after record demand, warns Welsh Water

A hosepipe ban is likely to be introduced to around 33,000 properties in parts of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Com : your daily dose of cutting edge tech updates ! » tech news today.