google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Clybiau rygbi llawr gwlad i ‘stryglo’ yn sgil toriadau URC

Gyda chlwb rygbi Nant Conwy yn dathlu 45 mlynedd eleni, er mwyn sicrhau fod y swyddogion hwb yn gallu parhau yn yr ardal, mae’r clwb yn casglu arian i ariannu’r swyddog hwb lleol eu hunain.

Bydd aelodau’r clwb yn cerdded 45 o filltiroedd er mwyn codi arian.

Mae Manon Llwyd Rowlands yn aelod o’r clwb a dywedodd fod yr her yn “dangos yr angerdd sydd yna” yn yr ardal.

“Mae’r rhai sy’n ‘neud o yn ei ‘neud o i’r genhedlaeth nesaf, i gael sylfaen bellach iddyn nhw, sylfaen fwy cadarn i’r dyfodol a gobeithio gallu codi’r pres i gael y swyddog hwb unwaith eto.”

Ychwanegodd fod y ffaith fod aelodau’r clwb yn gorfod hel yr arian ei hunain yn siomedig.

“Mae colli hwn, yn enwedig yn y gogledd… yn rhywbeth mawr i’w golli.

“‘Da ni’n byw mewn ardal eitha gwledig, ac mae’r swyddog hwb yn benodol, yn enwedig yn yr ysgolion mwy gweldig lle falla does dim gymaint o gyfleoedd o fewn yr oriau ysgol, cael nwh’n mynd mewn yn wyneb cyfarwydd… yn elfen mor bwysig.”


BBC News

Views: 0

See also  Police appeal after woman sexually assaulted and robbed in Falkirk

Check Also

Apêl Ambiwlans Awyr Cymru wrth i brisiau olew achosi ‘storm berffaith’

Dywedodd yr elusen fod prisiau olew wedi codi wrth i’r gwasanaeth baratoi am eu cyfnod …

Arlunydd o Fôn sy’n paentio murluniau enfawr ar yr Ynys

Mae thema pob murlun yn wahanol ond mae murluniau byd natur Ffion yn hynod boblogaidd. …

500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i’r Uchel Lys

Mae’r cwmni’n gobeithio adeiladu llwybrau peilon trydan mawr, fydd yn cysylltu ffermydd gwynt gyda rhwydwaith …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime