google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Taith gohebwyr o Jerwsalem i’r Lan Orllewinol

Advertisements

Tu hwnt i wleidyddion a mudiadau dyngarol, ‘da ni’n penderfynu siarad â phobl ar y stryd yn Jerwsalem fel modd o fesur y farn gyhoeddus.

Roedd hynny yr un mor ranedig â’r disgwyl – gydag un yn dweud bod hi’n falch o weld pobl Gaza yn dioddef, un arall yn gwrthod bod newyn yno gan roi’r bai ar Hamas, ac un arall yn dweud ei fod yn poeni’n arw am bobl Gaza.

Tri ateb a thri safbwynt hollol wahanol.

Mae’r pegynnu barn ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn Gaza, ynglŷn ag ymateb y Prif Weinidog, Benjamin Netenyahu, a’r hyn sy’n digwydd ar y Lan Orllewinol yn fawr.

Mewn rhanbarth ansefydlog llawn brwydro mae’n anodd gweld sut mae dod â’r ddwy ochr ynghyd.

Ond mae gan Yuval Inbar sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Jerwsalem obaith y bydd cadoediad a modd o symud ymlaen.

“Yn y dyfodol, ddim y flwyddyn nesaf, ddim mewn 10 mlynedd, ond yn y dyfodol dwi’n meddwl allai bod yn bosib.

“Mae pethau’n anodd ond dwi’n gobeithio… dwi’n gobeithio.”

Prin iawn yw’r rheini d’a ni di siarad efo sy’n dweud hyn ond mae geiriau Yuval yn cynnig llygedyn o obaith y daw cadoediad yn fuan er bod y lôn i gyrraedd hynny’n hir.


BBC News

Views: 0

See also  New Zealand 54-8 Spain: Black Ferns start Women's Rugby World Cup defence with victory

Check Also

Welsh government to get some control over youth justice for first time

Welsh government to get control of funding for schemes aimed at preventing children committing crimes. …

Iestyn Arwel: Actio ‘y Cymro twp’ wedi fy arwain at ysgrifennu

Er ei fod yn fwy cyfarwydd i rai fel actor, mewn cyfresi fel Rownd a …

Timm van der Gugten: 100-game bowler plans to stay at Glamorgan for ‘the long haul’

Bowler Timm van der Gugten says he is “really proud” to have reached a century …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Go beyond simple links with powerful features designed for creators.