google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tân tractor wedi lledaenu i gerbydau a thŷ yn Sir Gaerfyrddin

5c549820 6404 11f0 bf03 9dcc29d78cca.jpg

Advertisements

Mae mwy nag 20 o ddiffoddwyr wedi bod yn brwydro tân difrifol a ddechreuodd mewn tractor cyn lledaenu i gerbydau eraill a thŷ yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod am y digwyddiad ar yr A484 ger Llangeler am 14:19 ddydd Wener ac fe barhaodd am dros dair awr.

Y gred ydy bod y tân wedi dechrau mewn tractor cyn lledaenu i fêls gwair.

Lledaenodd y fflamau i ddau gerbyd arall cyn cyrraedd tŷ cyfagos hefyd.

Mae cegin ac atig yr eiddo wedi cael eu difrodi, yn ôl adroddiadau.

Fe gafodd criwiau tân o Landysul, Aberteifi, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan eu hanfon i’r digwyddiad ynghyd â cherbyd ymateb bach o Gastellnewydd Emlyn.

Cyhoeddwyd bod y digwyddiad o dan reolaeth am 17:43.


BBC News

Views: 0

See also  World Rally Championship: 'Intense calendar' helps Elfyn Evans get over fifth runner-up spot

Check Also

Mark Wallace: Welsh-born talent key to Glamorgan’s early success with more to come

Wallace also confirmed Glamorgan are optimistic they can extend the stay of Australian bowler Ryan …

‘Dianc’ i ‘sgwennu caneuon wrth wynebu triniaeth canser y fron

“Ar ôl i’r driniaeth orffen ym mis Rhagfyr 2025, nes i rili fynd ati wedyn …

Criw dawns y blodau Eisteddfod yr Urdd 1976 yn ail-greu llun

Rywsut neu gilydd fe gefais y dasg o gael pawb at ei gilydd a dyma …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime