google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn wedi ymosodiad yn Y Rhyl

742dc2f0 3e2a 11f0 a630 5f905e7d7396.png

Advertisements

Mae dyn o ardal Y Rhyl wedi cael ei arestio wedi i ddyn gael anafiadau difrifol ar Stryd Sussex yn y dre yn gynnar fore Sadwrn.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i The Tiki Room am oddeutu 03:10.

Mae’r dyn sydd wedi’i anafu wedi’i drosglwyddo i Ysbyty Stoke ac ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol.

Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o anafu ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Mae’r Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Rebecca Hughes yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu.

“Roedd nifer o bobl yn cymdeithasu yn y Tiki Room, a thu allan gerllaw, adeg y digwyddiad fore Sadwrn,” meddai.

“Rwy’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd unrhyw beth, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, ac yn gofyn iddyn nhw gysylltu â swyddogion cyn gynted â phosibl.

“Hoffwn hefyd dawelu meddwl y cyhoedd gan ei bod hi’n ymddangos bod hwn yn ddigwyddiad ynysig.”


BBC News

Views: 0

See also  Pennod newydd yn hanes stadiwm eiconig San Helen, Abertawe

Check Also

Tyson Fury v Anthony Joshua: Principality Stadium keen to stage all-British bout

Cardiff’s Principality Stadium has hosted late night boxing before, including Joe Calzaghe’s fight with Mikkel …

‘Colled enbyd’ – Teyrnged teulu wedi marwolaeth gyrrwr ar yr A40

Mae teulu dyn 38 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng ei fan a bws …

‘Labour’s call’ to pass Welsh budget, says first minister

In response Huw Thomas said the offer was not enough. “As it stands we will …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Specification of swift carrera 122 2024 campervan. Enya xmari smart beginner electric guitar kit with….