google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn o Gaerfyrddin wedi marw mewn damwain rali yn yr Alban

E00c2120 38b6 11f0 8947 7d6241f9fce9.jpg

Advertisements

Mae dyn o Gaerfyrddin wedi marw mewn damwain rali yn yr Alban.

Bu farw Dai Roberts, cyd-yrrwr y car, yn 39 mlwydd oed yn y fan a’r lle

Cafodd gyrrwr y car, James Williams, 27, o Gastellnewydd Emlyn, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Caeredin gydag anafiadau difrifol – ond nid rhai sy’n peryglu ei fywyd.

Mae trefnwyr Rali Jim Clark wedi canslo gweddill y digwyddiad yn ogystal â’r rali oedd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sul.

Dywedodd Heddlu’r Alban na chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y ddamwain.

Goroesodd Mr Roberts ddamwain flaenorol yn Rali Ulster yn 2014, pryd fu farw’r gyrrwr 20 oed, Timothy Cathcart.

Bu farw ei frawd Gareth yn cystadlu mewn rali yn Sisili ym Mehefin 2012.

Dywedodd tîm James Williams, gyrrwr y car, “gyda chalon drom, mae’n rhaid i ni rannu’r newyddion trist hyn y prynhawn yma.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Vincent Fisher fod “ein meddyliau gyda theulu’r dyn sydd wedi marw ac mae ymholiadau’n parhau i sefydlu’r amgylchiadau llawn.”

Mae Motorsport UK wedi dweud y bydden nhw’n cychwyn ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad, a’u bod am “weithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiad Rali Jim Clark a Chlwb Moduro Coffa Jim Clark,” ac y bydden nhw’n cydweithredu gyda’r awdurdodau perthnasol.


BBC News

Views: 0

See also  Eluned Morgan yn ymgeisio i fod yn arweinydd Llafur Cymru

Check Also

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Roedd yr haul yn gwenu’n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn …

Man arrested as five people injured in crash

Three of the five were seriously injured and the arrested man is in custody. BBC …

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.