google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mark Williams yn colli yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

964ca3a0 29e5 11f0 b40c 511087cf3f1c.jpg

Advertisements

Mae’r Cymro Mark Williams wedi colli yn erbyn Zhao Xintong yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Mewn gêm a ddaeth yn fyw yn ystod y sesiwn olaf nos Lun, fe drechodd y gŵr o China’r Cymro o 18 ffram i 12.

Williams, 50, yw’r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd y rownd derfynol – gan dorri record y Cymro Ray Reardon a gyrhaeddodd y ffeinal ym 1982 yn 49 oed.

Ar ôl curo John Higgins mewn gêm hynod gyffrous yn rownd yr wyth olaf, fe drechodd Williams rif un yn netholion y byd – Judd Trump – yn y rownd gynderfynol o 17 ffrâm i 14.

Ond roedd y rownd derfynol yn un gêm yn ormod i’r Cymro. Fe gafodd sesiwn gyntaf siomedig dros ben brynhawn Sul gan ei adael 7-1 ar ei hôl hi.

Brwydrodd yn ôl rywfaint, ond wrth i’r sesiwn olaf gychwyn nos Lun dim ond un ffram oedd ei hangen ar y gŵr o China i gipio’r bencampwriaeth am y tro cyntaf.

Er hynny, enillodd Williams bedair ffram yn olynol gan wneud y sgôr yn 12-17 a chodi gobeithion y dorf yn Theatr y Crucible.

Ond roedd y dasg yn ormod i Williams gyda Zhao Xintong yn ennill 18-12 yn y pen draw.


BBC News

Views: 1

See also  Rubbish delays 'inevitable' as bin lorry firm goes bust

Check Also

Galw am newid polisïau cynllunio i ateb anghenion cymunedau

Dyfodol i’r Iaith yn galw ar lywodraeth newydd Cymru i gyflwyno newidiadau mawr i’r drefn …

World's largest scorpion roamed UK 400 million years ago, says expert

Fossil fragments suggest the Praearcturus gigas scorpion had a body about one metre long. BBC …

Gêm gyfartal siomedig i Gymru oddi cartref ym Montenegro

Mae Cymru yn yr ail haen y rowndiau rhagbrofol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.