google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Staff Prifysgol Caerdydd i streicio a pheidio marcio

4bc51160 16c5 11f0 963a 3738e7f2791c.jpg

Advertisements

Dywedodd y brifysgol ddydd Iau fod cynlluniau i gau’r adran nyrsio wedi’u gohirio ac y byddai llai o swyddi’n diflannu ar draws y sefydliad.

Cefnogodd 83% o aelodau UCU Caerdydd streicio ac roedd 86% yn cefnogi gweithredu mewn ffordd arall.

Mae aelodau undeb wedi ystyried eu hopsiynau ac wedi pleidleisio dros streic undydd ar 1 Mai.

Os na chaiff y sefyllfa ei datrys, dywedodd UCU y bydd boicot asesu amhenodol yn dechrau ar 6 Mai, a saith diwrnod o streicio ym mis Mai a mis Mehefin yn dilyn hyn.

Mewn datganiad, dywedodd UCU mai’r gobaith yw y bydd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn cytuno i ofynion staff cyn i unrhyw gamau ddechrau.

Ychwanegodd mai dyma’r mandad mwyaf yn hanes y gangen.

Yn flaenorol, amddiffynnodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner, y penderfyniad i dorri swyddi, gan ddweud y byddai’r brifysgol wedi dod yn “anghynaladwy” heb ddiwygiadau llym.

Cynnig yn unig yw’r toriadau i swyddi, meddai, ond mynnodd fod angen i’r brifysgol “wneud penderfyniadau anodd” oherwydd y gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol a phwysau costau cynyddol.


BBC News

Views: 1

See also  Tata Steel won't change mind on job cuts, Vaughan Gething says

Check Also

Fire destroys Abercanaid bench for daughter who died from sepsis

The memorial burned down in the early hours of Tuesday morning and council workers were …

Rugby League: Wales suffer international defeat by Canada in Neath

Wales were beaten 14-0 by Canada in Neath as they count down to the Rugby …

Swansea City transfer news: Swans close in on deal for Motherwell’s Elijah Just

Swansea City are close to agreeing a deal to sign Motherwell’s New Zealand international winger …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime