google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gŵyl Gerdd Bangor: ‘Yr olwyn yn troi o’r celf i’r gerddoriaeth’

Advertisements

Meddai Guto am y lluniau mae Chris Holley eisoes wedi eu creu ar ôl cael ysbrydoliaeth o’i gerddoriaeth: “Mae’r darluniau mae hi wedi eu greu o A Different light yn anhygoel.

“Maen nhw’n hollol wahanol i beth fydden i wedi dychmygu – ei dehongliad hi o’r gerddoriaeth yw o.

“Mae o’n rhyw fath o dawelu rhywun – ac oeddwn i’n meddwl bod o’n codi’r holl broses i rhyw lefel uwch bod y gwahanol gelfyddydau yn ysbrydoli’r celfyddydau eraill a bod ‘na rhyngweithio a medru cyfuno’r ddau.

“Dyna’r elfen uchaf o gydweithio.”

Sefydlodd Guto, sy’n ddarllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yr ŵyl yn 2000 fel platfform ar gyfer cerddoriaeth gyfoes a dros y blynyddoedd mae wedi cynnwys cyfanswm o 225 premiere byd.

Eleni, wrth i’r ŵyl ddathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu, bydd perfformiad cerddorol o gyfansoddiad Guto ac ochr yn ochr gyda’r perfformiad bydd Chris Holley yn darlunio gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan y gerddoriaeth yn fyw.

Meddai Guto: “Dyna ni’n mynd i greu yn y gyngerdd yma, bod o’n brofiad gweledol a chlywedol a bod y ddau yn toddi i’w gilydd falle.”


BBC News

Views: 0

See also  Cymru Premier: Lloyd wins it for Caernarfon at The New Saints

Check Also

‘Uproar’ when children from England want Welsh education in Powys

Powys councillor James Gibson-Watt told the BBC: “As a county that borders a significant number …

Sul y Tadau: Y tad a’i ddau fab o Fangor sy’n caru snwcer

Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i’w tad am fod yn athro …

Modd ‘rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau’ – awdur ifanc o’r Bala

Ag yntau bellach yn astudio yn UCL yn Llundain, dywedodd fod rhoi’r gyfrol at ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
aaa mush love. Wordpress › error.