google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Dyn yn y llys wedi digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu

Mae’r achos yn ymwneud â digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu yn Nhonysguboriau am tua 19:00 nos Wener, 31 Ionawr.

Fe wnaeth swyddogion ymateb yn dilyn adroddiadau bod rhywun yn difrodi cerbydau heddlu ac yn “achosi aflonyddwch”.

Cafodd tri swyddog heddlu eu hanafu, a bu’n rhaid i ddau gael triniaeth ysbyty wedi’r digwyddiad.

Mae’r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Gan fod natur y cyhuddiadau mor ddifrifol, cafodd yr achos ei gyfeirio at Llys y Goron.

Fe fydd Mr Dighton yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i’r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Mawrth.


BBC News

Advertisements

See also  Para-swimmer Letton-Jones takes on World Championships with Olympic ambitions

Check Also

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

80 mlynedd o rwyfo ar afon Tâf

“Dwi wedi bod eithaf sâl ar gychod yn y gorffennol. Nes i ffeindio mas am …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime