google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Yr effaith o golli babi

Mae gan Sarah ferch fach deirmlwydd oed o’r enw Anya, ond llynedd bu iddi golli dau fabi bach.

Tra’n sôn am ei hail golled, mae’n trafod cyrraedd y sgan tri mis a chanfod fod curiad calon y babi yn iawn, ac ‘roedd hynny yn ollyngdod mawr.

Ond, gan fod y babi yn gorwedd yn lletchwith, methwyd a gwneud y profion arferol, sef profi am syndrome Downs, syndrome Edward’s a syndrome Patau.

Felly wedi iddi gyrraedd ugain wythnos, cafodd Sarah sgan arall. Yma, roedd y criw meddygol yn edrych ar yr ymennydd a datblygiad yr organau. Wedi saib hir, dywedwyd wrth Sarah am bopeth oedd o’i le ar y babi bach.

Meddai: “Roedd un aren ar goll, problemau efo’r llinyn bogail (umbilical cord), twll yn y galon, a phob math o bethau eraill. Ond nid oedd modd cadarnhau unrhyw beth gan fod y babi yn gorwedd yn lletchwith.”

Yn sgil hyn, anfonwyd Sarah i Ysbyty Maelor Wrecsam am sgan arbenigol.

Cadarnhawyd popeth yno, a rhoi gwybod fod y babi hefo Trisomy18 neu syndrom Edwards. Mae hwn yn gyflwr prin iawn, gyda’r mwyafrif o fabanod yn marw cyn eu geni, neu yn fuan iawn wedyn.

Dywedodd Sarah: “Fe benderfynom ddod â’r beichiogrwydd i ben. Gan mai ond 24 wythnos oedd y babi ‘da chi’n gorfod stopio’r galon gynta’, cyn y gallwch eni’r babi,” meddai.

Roedd hyn yn sioc enfawr iddi, doedd hi ‘rioed di meddwl am orfod geni babi bach wedi marw.

Ond mae’n falch iddi wneud hynny, a chael cyfarfod â’i merch fach.


Source link

See also  Swansea City: Trust call for answers as fans' forum details confirmed

Check Also

John Mousinho: Portsmouth boss ‘furious’ over Krystian Bielik incident account

Portsmouth head coach John Mousinho says he was “absolutely furious” at the position he says …

Llanrwst library books overdue by 116 years returned in ‘excellent condition’

A man has returned his late grandfather’s library books which were overdue by 116 years. …

Billy Boston funeral to take place

At the request of the Boston family, people attending are being encouraged to wear traditional …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime