google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Newidiadau i’r cynllun ffermio dadleuol o blannu coed

Mae Rhys Evans yn gobeithio y bydd y rheol o ofyn i ffermydd gadw o leia 10% o’u tir fel cynefin i fywyd gwyllt yn dal yn rhan o’r cynllun – yn un peth er mwyn gwneud busnesau’n fwy cynhyrchiol.

“Nid cynllun ‘fence and forget’ yw hyn – ond integreiddio cynefinoedd o fewn y system fwyd, ac mae digon o dystiolaeth yno gall hyn wella cynhyrchiant a effeithiolrwydd ar y fferm,” meddai.

Ond o ran y rheol 10% o goed ar y tir, mae’n dweud bod angen mwy o hyblygrwydd.

“Y risg o gael targed sy’n orfodol i bawb, sydd wedi’i yrru gan un prif bwrpas sef newid hinsawdd, yw bod ni’n plannu’r goeden anghywir yn y lle anghywir, ac mae hynny’n gallu cael sgil effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth ac efallai effeithiau andwyol ar dyfu bwyd.”

Mae undebau amaeth wedi galw am gael gwared ar y rheol honno, gan ddweud ei bod hi’n “anymarferol”.

Ond mae rhai sy’n gefnogol – fel Coed Cadw – yn nodi bod lefel y coed ar gyfartaledd ar ffermydd Cymru eisoes yn cyrraedd rhwng 6 a 7%. Ar sail hynny, mae’n nhw’n credu bod y rheol yn gais “gweddol resymol”.


Source link

Views: 0

See also  Conservative Party needs to change, says Welsh Tory MS

Check Also

Torfeydd yn heidio i Tafwyl sy’n dathlu 20 mlynedd yn y brifddinas

Mae ymwelwyr yn gallu mwynhau perfformiadau ar draws sawl llwyfan – y Prif Lwyfan, Llwyfan …

O Grymych i'r Bahamas: 'Cael fy nhalu i deithio'r byd'

Mae Shannon Mathias o sir Benfro wedi bod yn gweithio ar gychod hwylio gwerth miliynau …

Steve Cooper on Wales’ radar amid Craig Bellamy’s Burnley links

Wales are preparing for head coach Craig Bellamy’s possible move to Burnley with a shortlist …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
aaa mush love. Wordpress › error.