google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru ‘ar ei cholled’ oherwydd diffyg buddsoddiad rheilffyrdd

Yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am fuddsoddiad y rheilffyrdd.

Ond yn ôl yr Athro Barry, o Brifysgol Caerdydd, mae hynny’n golygu bod Cymru ymhell i lawr y ciw am bres.

Dywedodd bod Cymru yn derbyn tua 1% i 2% o’r cyllid sydd ar gael ond y dylen ni gael llawer mwy.

“Mewn byd delfrydol byddech chi’n edrych ar 5%, 6% o gyfanswm buddsoddiad y DU mewn gwella rheilffyrdd,” meddai.

“Ond os na wnewch chi fuddsoddi mewn seilwaith economaidd hanfodol, yn benodol mewn ynni, trafnidiaeth a thai, yna allwch chi ddim disgwyl i’ch economi droi cornel.”

Aeth ymlaen i esbonio bod y symiau y mae Cymru’n gofyn amdanynt yn fach iawn o’u cymharu â’r hyn sydd eisoes wedi’i neilltuo i reilffyrdd Lloegr.

Dywedodd: “Mae Uwchraddio’r Reilffordd Traws-Pennine yn rhaglen gyfalaf gwerth £10 biliwn dros 15 mlynedd.

“Yng Nghymru dros y bum mlynedd diwethaf, ry’n ni wedi creu achosion busnes o ryw £2 i £3 biliwn ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd, a’r her yw sut mae hynny’n mynd i gael ei ariannu?”


Source link

Views: 1

See also  Dynes wedi'i chyhuddo o stelcian teulu Madeleine McCann

Check Also

Women’s World Cup qualifying: Rhian Wilkinson right person to drive Wales forward – Mia Ross

Ross, who can play in defence as well as midfield, has turned her attention to …

Boy, 17, has leg amputated after Barry Island stabbing

The teenager suffered a serious leg injury during the attack on bank holiday Monday. BBC …

Lluniau: Cysau pêl-droed cofiadwy Cymru

Wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru baratoi i wynebu Ghana mewn gêm gyfeillgar, fe fydd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
A simple, neat ad bar featuring a few text ads appears at the bottom of every website within the network.