google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

O Ddulyn i Canberra: Darlledu’r Gymraeg o dramor ddim yn newydd

Yn weddol fuan wedi sefydlu’r Wladwriaeth Wyddelig Rydd (Irish Free State) yn 1926, sefydlwyd gorsaf radio 2RN yn Nulyn (a ddaeth yn ddiweddarach yn Radio Éireann).

Cafodd rhaglen Gymraeg ei chreu gan yr orsaf, gan fod ei chynnwys yn cyrraedd arfordir Cymru ac, yn ôl y stori, fel ffordd o godi embaras ar y BBC. Ar y pryd, prin iawn oedd rhaglenni Cymraeg ar radio’r Gorfforaeth, er fod ‘na ganeuon Cymraeg ar yr awyr.

Mae dogfen a arwyddwyd rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon ym mis Mawrth 2021 – Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 – yn cadarnhau fod “y darllediad radio cyntaf yn y Gymraeg wedi’i wneud o Ddulyn”.

Yn ôl A History of Independent Television in Wales gan Jamie Medhurst: “The station producing the most substantial amount of Welsh language programmes at the time was Radio Éireann located in Dublin, who understood that their broadcasts could be picked up by the Welsh speaking communities of west Wales.”

Gan mai darlledu’n fyw oedd yr arfer bryd hynny, does yna ddim recordiadau wedi goroesi o’r cyfnod, yn anffodus.


Source link

Advertisements

See also  My dad died when I was 12 - I spent my childhood pretending nothing was wrong

Check Also

Melin Llynon yn ôl yn wyn ar ôl ei phaentio ar gyfer Eisteddfod yr Urdd

Roedd Holt yn bwriadu ailbaentio’r felin yn ôl yn syth ar ôl yr Eisteddfod, ond …

What we learned from Wales’ Nations League window

The win over Norway – coupled with their defeat by Portugal on Sunday – means …

Sut i redeg (a thorri recordiau) fel Angharad Mair

A hithau wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd bellach, mae’n siŵr y byddech chi’n tybio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime