google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfnod o ‘ansicrwydd a phryder’ i weithwyr dur Port Talbot

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: “Rydym yn cydnabod yr ansicrwydd sy’n wynebu gweithwyr wrth i ni ailstrwythuro’r busnes er mwyn mynd i’r afael â cholledion dyddiol o £1m, ac mae deunydd eang ar gael i helpu pobl ddeall amseru a natur y newidiadau sy’n cael eu gwneud.

“Mae nifer o gynlluniau ar gael i gefnogi gweithwyr, gan gynnwys hwb iechyd meddwl, rhwydwaith o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, tîm iechyd galwedigaethol, rhaglen annibynnol i gefnogi gweithwyr ac ymgyrchoedd iechyd meddwl a lles a hyfforddiant i reolwyr llinell.

“Ry’n ni hefyd yn chwarae rhan flaenllaw ar y bwrdd trawsnewid, wedi cyfrannu £20m, ac yn helpu gweithwyr i ennill cymwysterau ffurfiol ac yn caniatáu i’r adran cyllid a thollau ymweld â’r safle.

“Rydym yn falch iawn bod cymaint o gwmnïau wedi cynnig swyddi neu gefnogaeth i weithwyr, ac yn fuan byddwn yn cyhoeddi ein bod wedi penodi asiantaeth allanol i gynnig cefnogaeth hefyd.

“Mae arolwg diswyddiadau gwirfoddol ymhlith ein gweithwyr yn ne Cymru wedi ei gwblhau, ac rydym yn gweithio drwy’r ymatebion hynny gyda phawb sydd wedi mynegi diddordeb.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r undebau llafur, llywodraethau Cymru a’r DU, cynghorau lleol ac asiantaethau cefnogi allanol er mwyn lleihau effaith y newidiadau hyn ar ein gweithwyr, y gadwyn gyflenwi a’r cymunedau.”


Source link

Views: 1

See also  Opportunity knocks at U20s World Championship

Check Also

Newid polisi cludiant ysgol yn ‘rhwygo Llansannan yn ei hanner’

Er bod disgyblion uwchradd Llansannan hefyd wedi mynd i Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yn …

Louis Rees-Zammit: Wales wing says more to come for next season

Louis Rees-Zammit says he has not settled back into rugby as quickly as he would …

Hosepipe ban for parts of Wales likely after record demand, warns Welsh Water

A hosepipe ban is likely to be introduced to around 33,000 properties in parts of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
tech news today.