google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Prif weithredwr Galeri Caernarfon yn gadael wedi achos stelcian

Mae prif weithredwr canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon wedi gadael ei swydd, bedwar mis wedi iddo gael ei atal o’i waith ar ôl pledio’n euog i stelcian.

Derbyniodd Steffan Thomas orchymyn atal (restraining order) ym mis Ebrill ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o stelcian heb godi ofn, braw na gofid.

Ar ôl ei ddedfrydu cadarnhaodd bwrdd Galeri Caernarfon Cyf eu bod yn cynnal ymchwiliad, a bod Thomas wedi’i atal o’i waith ar gyflog llawn.

Mewn datganiad i BBC Cymru Fyw cadarnhaodd Galeri fod ei gyflogaeth wedi dod i ben ddydd Gwener.

Roedd wedi bod yn y swydd ers Ebrill 2023.

Dywedodd Galeri mewn datganiad: “Mae cyflogaeth Steffan Thomas fel Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf wedi dod i ben, ar y 9fed o Awst 2024.

“Bydd y broses o benodi Prif Weithredwr newydd Galeri Caernarfon Cyf yn cychwyn yn fuan.”


Source link

Views: 1

See also  Pryder am dangyfrif nifer y carcharorion sy'n siarad Cymraeg

Check Also

Y siop chips Gymreig yn Arizona

Yn siarad â Cymru Fyw mae un o’r gweithwyr, Miranda, yn rhoi hanes y siop: …

Angen ‘dewis’ rhwng biliau uwch neu welliant arafach, medd pennaeth dŵr

Dywedodd y corff sy’n gyfrifol am ofalu am fuddiannau cwsmeriaid fod yn rhaid i gwmnïau …

Canslo sioe Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig yn ‘siom i ni gyd’

Dywedodd Ifor Lloyd, sydd wedi bod yn aelod o’r gymdeithas ers degau o flynyddoedd, fod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Diam parturient dictumst parturient scelerisque nibh lectus. Return & refunds policy. cam fluffy fupa.