google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Lle i fwy o fentrau lleol helpu’r Gymraeg fel iaith gymunedol’

Ers ei sefydlu mae’r fenter gymunedol wedi perchnogi rhai o adeiladau’r stryd fawr ym Methesda i hybu’r economi leol, a rhentu siopau a fflatiau i bobl leol.

Mae hefyd gwasanaeth bysiau trydan cymunedol, sydd yn ogystal â bod yn adnodd i’r ardal, hefyd yn helpu i daclo problemau parcio yn rhai o atyniadau’r fro, a chynllun solar a batri i wefru’r cerbydau.

Dywedodd Donna Watts, dirprwy brif weithredwr Partneriaeth Ogwen, fod llawer o alw ar eu gwasanaethau ers eu sefydlu tua degawd yn ôl.

Ychwanegodd fod mentrau fel y Gydweithfa wedi bod yn boblogaidd ers trawsnewid y cyn-ysgol a chanolfan ieuenctid at ddefnydd cymunedol.

Mae hi hefyd yn credu fod lle ar gyfer canolfannau tebyg mewn ardaloedd eraill.

“‘Da ni wrth ein bodd bod yn ganol y gymuned a helpu pobl ar ein stepan drws,” meddai.

“Mae’r elfen ieithyddol yn hollbwysig – y Gymraeg yw ein hiaith weinyddol a ‘da ni i gyd yn dod o Ddyffryn Ogwen.”


Source link

Views: 1

See also  Wales strength in depth increasing, says ex-striker Rob Earnshaw

Check Also

BBC ‘working hard’ on the future of Doctor Who, says director-general

Announcing his departure, Davies said Doctor Who’s future was “unpredictable and new” and he was …

Bowling for Soup singer’s son dropped on head at Cardiff Castle

During the crowd surf, Everett fell before he was quickly picked back up by the …

Labour calls on Welsh government to withdraw supplementary budget

Thomas added: “The Welsh government need to withdraw it today, negotiate with those unions to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes.