google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dysgwr 11 oed yn teithio o Slofacia i ymweld â’r Eisteddfod

Mae cael siarad Cymraeg ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi bod yn “brofiad cwbl arbennig” medd bachgen 11 oed o Slofacia.

Mae Matko yn byw yn Poprad, yn nwyrain Slofacia, ac yn ogystal â siarad Cymraeg mae e wedi cael cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb â’i athrawes Cymraeg ar faes y Steddfod.

Sioned Rees Jones wnaeth sefydlu Ysgol Sadwrn yn 2023, ac mae yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg rhyngwladol ar-lein i blant.

Wrth siarad â Cymru Fyw ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Sioned ei bod wrth ei bodd yn cyfarfod Matko.

“O’dd hi mor wych bod bachgen sydd wedi bod yn dod i Ysgol Sadwrn ers y cychwyn cyntaf wedi dod i’r Eisteddfod ac i ni gael cyfarfod wyneb yn wyneb, gyda’i dad.

“Mae wedi teithio yma ar wyliau, dod i Gaerdydd ac yna treulio deuddydd yn yr Eisteddfod.”


Source link

Advertisements

See also  Jak Alnwick: Cardiff City players want Omer Riza as permanent boss

Check Also

Prydau ysgol am ddim i filoedd yn fwy o blant uwchradd yn ‘gam cyntaf pwysig’

Roedd Anna Brychan AS yn trafod ar yr un rhaglen ar Radio Cymru fore Gwener …

Tedi AI i blant tair oed yn dweud heb ei gymell ‘alla i ddim helpu gyda dy ladd di’

Cafodd cais am gyfweliad gyda Gweinidog Deallusrwydd Artiffisial y DU, Kanishka Narayan, ei wrthod. Mewn …

Llywodraeth Cymru’n ystyried gwahardd diodydd egni i rai dan 16 oed

Byddai’r rheolau’n berthnasol i ddiodydd, heblaw te a choffi, sy’n cynnwys mwy na 150mg o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime