google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwest: Dynes a laddodd dyn yn y Rhondda â chefndir treisgar

Mae cwest i farwolaeth dyn 88 oed a gafodd ei ladd wrth iddo drio stopio ymosodiad mewn archfarchnad yn y Rhondda wedi ailgychwyn.

Fe wnaeth John Rees ymyrryd wrth i Zara Radcliffe ymosod ar bobl oedd yn siopa yn archfarchnad y Co-op ym Mhenygraig fis Mai 2020.

Ym mis Hydref fe wnaeth Radcliffe bledio’n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei llawn bwyll ac fe gafodd ei hanfon i ysbyty am gyfnod amhenodol.

Ddydd Llun clywodd llys y crwner ym Mhontypridd fanylion am driniaeth Zara Radcliffe fel claf iechyd meddwl yn ystod y misoedd yn arwain at y digwyddiad ym Mai 2020.

Roedd hi wedi bod yn cael triniaeth iechyd meddwl ers 2009, gan gynnwys cyfnodau yn yr ysbyty.

Roedd hi’n cymryd meddyginiaeth gwrthseicotig. Fe dreuliodd dri mis yn ysbyty Brenhinol Morgannwg rhwng Tachwedd 2019 a Chwefror 2020 – ychydig fisoedd cyn yr ymosodiad.

Bu nyrs iechyd meddwl oedd yn gofalu amdani yn sôn am asesiad risg ym mis Ionawr oedd yn dweud bod ei chyflwr wedi gwella ar ôl cymryd meddyginiaeth, ond bod yna achosion yn y gorffennol ohoni’n ymddwyn yn fygythiol a’i bod wedi ymosod ar staff ysbyty a swyddog heddlu yn 2017.

Dywedodd hefyd bod Zara Radcliffe wedi bod yn cymryd cyffuriau.

Clywodd y cwest hefyd gan ei mam hi a ddywedodd ei bod hi’n ymwybodol nad oedd gan ei merch dabledi ar un adeg.

Mewn datganiad i’r heddlu ar ôl yr ymosodiad ym mis Mai 2020 dywedodd ei bod hi’n ymwybodol bod yna rywbeth o’i le gyda’i merch a bod ei thad wedi cysylltu a’r awdurdodau iechyd meddwl.

Mae’r cwest yn parhau.


Source link

See also  Treth ar danwydd: Pryder am effaith cynnydd posib ar gefn gwlad

Check Also

Cynnydd yn nhymheredd y môr ‘yn peryglu cynefinoedd a morwellt’

Wrth i’r môr o amgylch Cymru boethi mae rhywogaethau newydd yn ymddangos, meddai Laura Hughes, …

Cyhuddo Reform o geisio dechrau ffrae am hil dros godi baner Pacistan

Dywedodd arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Chris Weaver y bu “seremoni i godi’r faner ar 9 …

Zan Vipotnik: The golden boot winner yet to kick start his season at Swansea City

Zan Vipotnik has been backed to return to form for Swansea City – even though …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime