google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dirwy i fferm yng Ngheredigion am lygru nant gyda slyri

Mae busnes fferm yng Ngheredigion wedi’u cael yn euog o drosedd amgylcheddol ar ôl i’w storfa slyri fethu, gan ryddhau bron 70 galwyn o lygredd i nant fechan.

Fe gafodd Fferm Rhydsais yn Nhalgarreg eu herlyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ôl i storfa slyri’r fferm fethu ar 16 Chwefror 2022, gan arwain at lygru o leiaf 12km o afonydd.

Roedd rhwng 60,000 a 70,000 galwyn o slyri wedi’i ryddhau i nant ddienw sy’n llifo i Afon Cletwr Fach, sydd yna’n llifo i Afon Cletwr, ac i Afon Teifi yn y pendraw.

Dangosodd dadansoddiad samplau dŵr fod lefelau llygredd sylweddol yn ymestyn o Fferm Rhydsais, sy’n fusnes teuluol, i ble mae Afon Cletwr yn ymuno ag Afon Teifi, 12km i ffwrdd.

Cafwyd Fferm Rhydsais yn euog o drosedd amgylcheddol a’u gorchymyn i dalu cyfanswm o £13,035, yn cynnwys dirwy o £5,000, a chostau.


Source link

Views: 0

See also  Steve Tandy: New coach faces early tests after naming first Wales squad

Check Also

Llawfeddyg Ysbyty Gwynedd wedi tynnu rhan anghywir o goluddyn claf

Fe wnaeth llawfeddyg dynnu rhan anghywir o goluddyn claf canser yn ystod llawdriniaeth, yn ôl …

Adam Price eisiau gwerthu Cymru o amgylch y byd

Mae creu quango newydd yn golygu y bydd gwrthwynebiad cryf gan Reform UK yn anochel. …

Cardiff Huskies celebrate 30 years of life on ice

As the sport grew in the UK in the 1990s, Cardiff Huskies saw various players …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime