google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwadu bod ymgeiswyr Llafur yn cael eu ‘gorfodi’ ar Gymru

Dywedodd Stephen Doughty – ymgeisydd Llafur ar gyfer De Caerdydd a Phenarth – wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales y cafodd y penderfyniad ei wneud “yng Nghymru”.

“Mae ‘na brosesau clir, hir sefydlog – yn enwedig pan fo etholiad yn cael ei alw ar fyr rybudd – o fewn y blaid, ac fe gafodd y penderfyniad yma ei wneud yng Nghymru,” meddai Mr Doughty.

“Cafodd ei wneud gan aelodau o’n pwyllgor gwaith Cymreig a gan gynrychiolwyr lleol, felly mae’r syniad y cafodd ei orfodi o rywle arall yn anghywir.

“Mae gennym ni ymgeiswyr gwych, sydd â sgiliau gwych. Rwy’n siŵr y byddan nhw’n gynrychiolwyr o’r radd flaenaf i Gymru.

“Rwy’n credu bod rhaid i ni farnu ymgeiswyr ar, a ydyn nhw am fod yn gynrychiolwyr gwych yn lleol ac a ydyn nhw am gyflawni newid ar lefel genedlaethol… ac rwy’n meddwl bod Torsten ac Alex am wneud hynny’n wych ar gyfer Caerdydd, Abertawe a Chymru.”


Source link

Views: 0

See also  Paralympics 2024: Paul Karabardak first Welsh athlete to claim Paris medal with Para-table tennis bronze

Check Also

Railway which inspired Thomas the Tank Engine marks 75 years since becoming world first

Talyllyn Railway was first in the world to be run by enthusiast volunteers. BBC News …

Rhun ap Iorwerth: Plaid Cymru yn mynd o argyfwng i gipio grym

Astudiodd Rhun ap Iorwerth wleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio yn 1993 gyda …

Llanidloes yn cynnal Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2027

Bydd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027 yn cael ei chynnal yn Llanidloes ddydd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
End of lease cleaners melbourne, biolinker.