google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pleidlais diffyg hyder yn y Prif Weinidog yn ‘debygol’

Daw sylwadau Mr Davies yn dilyn misoedd heriol i Lafur Cymru dros roddion dadleuol i ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething.

Dywedodd Mr Davies y bydd ei blaid “yn cael sgyrsiau gyda phleidiau eraill” ym Mae Caerdydd i weld lefel y gefnogaeth ar gyfer cynnig o ddiffyg hyder.

Fe wnaeth Mr Gething ddiswyddo Ms Blythyn ar ôl i stori, a gafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol gan Nation.Cymru, ddatgelu bod arweinydd Llafur Cymru wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o gyfnod y pandemig.

Wedi iddi gael ei diswyddo, dywedodd Ms Blythyn “na wnes i, ac nid wyf erioed wedi, rhyddhau dim”.

Ar yr un diwrnod daeth i’r amlwg y bydd Mr Gething yn rhoi £31,000 i’r blaid Lafur o gronfeydd ei ymgyrch, ar ôl gwario’r rhan fwyaf o’r £250,000 a roddwyd iddo – gan gynnwys £200,000 gan gwmni sy’n eiddo i ddyn sydd wedi’i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.


Source link

Views: 1

See also  Cymru'n enghraifft o beth sydd i ddod gan Lafur - Nigel Farage

Check Also

Miriam Margolyes says being born Jewish has affected her whole life

“My friends and my relatives in Golders Green and Dollis Hill and Radlett and St …

Zain Ul Hassan: All-rounder extends Glamorgan stay

Glamorgan all-rounder Zain Ul Hassan has signed a contract extension at the club until the …

London driver jailed after Cwmbran getaway attempt while handcuffed

Body cam footage has captured a man attempting to drive away from police officers while …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.