google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

3 Llun: Chris Roberts yn Japan

Y lle ola’ es i o’dd WagyuMafia yn Tokyo. Ma’r lle ma’ gymaint mwy ‘na bwyty; ma’ fwy fath â concept a Hisato Hamada ydy’r genius tu ôl i’r holl beth.

Mae o’n enw masif yn Japan ac yn cael ei ddathlu fath â rhywun sy’ ‘di newid y gêm pan ma’n dod i gig wagyu, y brîd gwartheg byd-enwog o Japan. Dw i ‘rioed ‘di profi egni fel o’dd tu mewn i WagyuMafia: goleuada’ neon, miwsig hip-hop a fflamia’ huge.

Ma’ Hisato’n gweithio’n uniongyrchol efo ffermwyr graddfa bach sy’n magu gwartheg champion A5 wagyu, un o’r brîdiau gora’ yn y byd. Ma’ nhw’n gallu d’eud yn union o ba fuwch ma’ pob stêc wedi dod. ‘Na’th y lefel yna o gysylltiad rhwng ffermwyr, anifeiliaid a chefs chwythu ‘mrên i go iawn.

Fel Chef Taka a Chef Motokichi, er bod Hisato a’i dîm yn enwog o’dd y croeso ges i a’r criw mor arbennig; pobl cynnes o’dd isho g’neud yn siwr bod ‘mhrofiad i’n Japan yn un arbennig.

Ma’n swnio’n wirion ond pan o’n i hefo nhw o’n i’n teimlo fath â bo’ fi’n profi bwyd am y tro cynta ‘rioed; ma’ ‘nghyfnod i’n Japan ‘di newid sut dw i’n sbio ar gynhwysion am byth.

Gwyliwch Llond Bol o Japan ar S4C am 21.00 nos Fercher a BBC iPlayer


BBC News

Advertisements

See also  BBC reporter confronts former leader of Reform UK Nathan Gill

Check Also

World Rally Championship: Oliver Solberg turns up pressure on leader Elfyn Evans in Sardinia

The rally continues with a further 13 stages before the winner – and the 2026 …

Elite Ice Hockey League: Cardiff Devils seek home lift-off for title bid

The start of the 2026-27 season has also been hit by three players sustaining long …

Craig Bellamy: Was long-awaited win a turning point for Wales boss?

So it eventually proved. And yet it was the performance perhaps more than the result …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime