google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

17% siaradwyr Cymraeg sy’n ffafrio’r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus

Advertisements

Dywedodd Tom Giffard o’r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl mai “ychydig iawn o gynnydd gwirioneddol” a gafwyd yn sefyllfa’r Gymraeg ers datganoli yn 1999.

Cyfeiriodd at ganlyniadau y cyfrifiad diwethaf “a ddangosodd bod dim ond 17.8% o’r boblogaeth yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, y lefel isaf erioed a gofnododd, sy’n dangos y realiti, y diffyg cynnydd sydd wedi ei wneud i hybu siaradwyr Cymraeg ers datganoli, ac yn amlwg bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng ers 2001.

“Datgelodd y cyfrifiad hefyd anghyfartaleddau a gwahaniaethau daearyddol”.

Cyfeiriodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru at “bwysigrwydd cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r dosbarth”.

Gan gyfeirio at gamau gorfodi gan y comisiynydd pan nad oedd ymateb sefydliadau i gwynion yn ddigonol, meddai, “mae gwasanaethau hamdden yn hollol, hollol amlwg fel elfen hollbwysig o hynny, ond eto rydyn ni’n gweld bod hyn yn broblem, ac mewn mwy nag un awdurdod lleol”.

Ymatebodd Mr Drakeford i hynny trwy ddweud “mae’n hollol bwysig, pan mae’r awdurdodau lleol yn rhoi’r cyfrifoldeb i roi gwasanaethau yn y maes hamdden [i gwmni neu fudiad allanol], mae’n bwysig iddyn nhw drosglwyddo’r cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn glir yn yr un modd”.

Dywedodd yr aelod annibynnol Rhys ab Owen: “Nid gwaith hawdd yw cynnal iaith leiafrifol yng nghysgod iaith gryfaf y byd.

“Nid peth newydd na hawdd yw datrys lefel isel y defnydd o’r iaith Gymraeg. Rwy’n gweld hynny gyda fy mhlant fy hun.

“Er mai’r Gymraeg yw iaith yr aelwyd a bod y ddau riant yn siarad Cymraeg, mae’r plant yn dueddol o siarad Saesneg gyda’i gilydd. Nid peth newydd yw hynny, yn anffodus.

“Ond, mae yna arwyddion o obaith: ffrindiau fy merch bum mlwydd oed sy’n dod o gartrefi di-Gymraeg yn troi yn rhugl yn hynod y gyflym, mewn cyfnod byr iawn; tadau ifanc fel Matt o Swydd Gaint a Paddy o Essex yn ymdrechu i ddysgu’r Gymraeg.”


BBC News

Views: 0

See also  Italy run in 12 tries in big win over Brazil

Check Also

World Cup play-offs: Wales face Albania in round one

Wales will have to beat Albania and then either Romania or Norway in successive two-legged …

Harri O’Connor: Wales prop signs new Scarlets deal

Wales tight-head prop Harri O’Connor has signed a new contract with Scarlets. The 25-year-old academy …

Cyhuddo tri o Gymru ar ôl canfod 12 tunnell o ganabis gwerth £139m

Mae tri o bobl wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â chanfyddiad canabis gwerth miliynau …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Best car transport companies. Just a moment.... power only north carolina.