google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

15 o bobl wedi eu hachub ar ôl i gychod fynd i drafferth yng Ngwynedd

1744869895 878927d0 1b03 11f0 b731 c780c85cb550.jpg

Advertisements

Cafodd 15 o bobl eu hachub ar ôl i sawl cwch hwylio droi drosodd wrth rasio oddi ar arfordir Gwynedd.

Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a thimau achub Cricieth ac Abersoch eu galw i’r digwyddiad ger Pwllheli tua 14:15 brynhawn Mercher.

Roedd adroddiadau cychwynnol yn nodi bod 15 o bobl mewn trafferth, ond roedd y nifer yma wedi gostwng i bedwar erbyn i’r timau achub gyrraedd.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod “pob unigolyn oedd yn y dŵr wedi eu hachub a’u cludo’n saff i’r lan”.

Roedd y bobl a aeth i drafferth yn rhan o gystadleuaeth ieuenctid genedlaethol RYA.

Mae un cwch yn dal heb ei ddarganfod, ond mae disgwyl iddo ddod i’r lan.

Mae Gwylwyr y Glannau Cricieth yn awyddus i atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus o’r amodau ac i wirio rhagolygon y tywydd, am eu bod yn gallu newid yn sydyn.

Dywedodd llefarydd: “Yn y diwedd, roedd pawb wedi eu hachub ond yn teimlo’n oer iawn ac yn wlyb. Cafodd un anaf ei nodi – ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddi.”


BBC News

See also  Teens help collapsed man get help after Cardiff's Tafwyl festival

Check Also

‘Fi’n talu’n ôl i bobl Caernarfon am dderbyn outsider fel fi’

Mae’n dweud ei fod yn elwa o boblogrwydd prynu dillad ail-law, wrth i bobl symud …

Dan Watts: Exeter sign midfielder from Swansea City on loan

Exeter have signed midfielder Dan Watts from Championship leaders Swansea on a season-long loan. The …

I’ve learned lessons, first minister says after summer budget defeat

At a press conference ap Iorwerth warned of a challenging financial situation and said his …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime