google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

11% o bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd – arolwg cenedlaethol

11% o oedolion yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau yn yr iaith, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024/25.

Dyna brif ganlyniad arolwg 2024/2025, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith dadansoddi ac yn cyhoeddi manylion pellach maes o law.

Mae’n union yr un ffigwr ag arolwg 2022/23.

Mae adroddiad trylwyr ar y ffigyrau 2022/23 wedi ei gyhoeddi fis yma hefyd.

Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, roedd 34% o bobl 16 oed neu’n hŷn yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg – dywedodd 18% eu bod yn gallu siarad Cymraeg, a dywedodd 16% arall fod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn “canolbwyntio’n llwyr ar gynyddu defnydd dyddiol o’r Gymraeg, sy’n ganolog i’n strategaeth hir dymor i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.

Dywedodd cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd, bod y “ganran o 34% o siaradwyr Cymraeg yn addawol, ond mae’r ganran sy’n siarad y Gymraeg bob dydd, sef 11%, yn bryderus, ac yn fwy o arwydd o fywiogrwydd yr iaith”.


BBC News

Advertisements

See also  Celebrity SAS Who Dares Wins 2025 series filmed in Wales

Check Also

Blaenau Gwent mum’s anger after drink-driver who killed two children released

A mother has described the justice system as a “disgrace” after a driver who killed …

Tanyfron road blocked by caravan as police forced to move it

North Wales Police said the road was closed after the caravan was unable to be …

Galw am oedi a ‘chynllunio strategol’ cyn cau ysgolion bach yn Sir Gâr

Gydag etholiadau lleol i ddod ym mis Mai, dywedodd Dr Huw Williams na fyddai’n synnu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime