google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Cau ysgolion yn Sir Gâr: ‘Mae’r plant yn beio’u hunain’

Daw’r cyfarfod ddiwrnod ar ôl i Gyngor Sir Gâr benderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau i ymgynghori ar gau pedair ysgol gynradd yn y sir.

Cytunodd Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a’r Gymraeg y cyngor ddydd Mawrth i argymell symud ymlaen â’r broses ar gyfer Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen.

Yn ystod y broses ymgynghori i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro cafwyd “ymateb sylweddol” gan gymunedau’r ddwy ysgol, a sawl protest tu allan i adeilad Cyngor Sir Gâr.

Yn ôl Glyn Harbour, Llywodraethwr Cymunedol Ysgol Meidrim, fe wnaeth y plant “roi eu calonnau” mewn i’r ymgyrchu i gadw’r ysgol ar agor a bellach maen nhw’n “beio’u hunen”.

“Maen nhw wedi canu, gwneud fideos, wedi bod tu fas i neuadd y sir.

“O’n nhw gymaint yn y broses eu hunen a phan mae pethau’n edrych yn ddrwg maen nhw’n beio’u hunen. Plant y’n nhw.”

Yn siarad yn emosiynol â BBC Cymru ychwanegodd fod angen blaenoriaethu eu lles.

“Mae’n drist ofnadwy. Yn ddiweddar ni wedi cadw nhw mas o’r holl halibalŵ achos nhw sy’n dod gyntaf.

“O’n i’n arfer dweud ‘Cofiwch Dryweryn’, falle byddwn ni’n dweud Cofiwch Meidrim mewn blynyddoedd i ddod.”


BBC News

Advertisements

See also  Tanau gwair Ceredigion: 'Amser pryderus i'r ardal'

Check Also

Cynlluniau i ‘roi bywyd newydd’ i Gapel Mawr hanesyddol Dinbych

Dywedodd y gweinidog, Andras Iago, fod angen “cynllun pendant” ar gyfer dyfodol y capel er …

Ji-sung Eom: Swansea City winger the target of alleged racism at Millwall

Swansea City head coach Vitor Matos says the lengthy stoppage during their 1-0 win away …

Court told boxer 'acted on instinct' and Tata's toxic gas safety failures

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime