google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Lauren Smith: Chwaraeon yw fy mywyd

Ond doedd y llwybr i’w swydd ddelfrydol ddim bob amser yn llyfn, meddai.

Gweithio ym myd teledu oedd y freuddwyd pan oedd hi’n ei harddegau, a phan y cafodd dreulio diwrnod gyda chriw teledu ar leoliad yn Rasys Llwydlo, sylweddolodd Lauren mai’r wefr o ddarlledu byw oedd yn mynd â’i bryd. Ond sut oedd mynd ati i ddod o hyd i swydd ym myd darlledu chwaraeon?

“Ym Mhrifysgol Caerdydd, ‘nes i gwrs newyddiaduraeth, a chymryd unrhyw gyfle o’n i’n gallu i ddysgu a chael profiadau gweithio yn y cyfryngau ac o fewn chwaraeon,” eglurodd. “Ges i gyfleodd gwych, fel gweithio fel intern gyda Gleision Caerdydd.

“Fy swydd gynta’ i oedd gwneud te a choffi yn yr ystafell cyfryngau yng Nghriced Morgannwg. Ges i gwrdd â’r holl enwau mawr ‘ma yn y byd darlledu criced, a chreu cysylltiadau a chael cyfleoedd.

“Doedd gen i ddim syniad sut o’n i am gyrraedd yna, ond dwi’n mwynhau gweithio’n galed iawn. Dwi wedi gwneud llawer o rolau bach, ond maen nhw i gyd yn brofiad. Ti jest angen cymryd y cam cynta’, wedyn ochr-gamu ychydig a mynd am gyfleoedd gwahanol sydd i’r cyfeiriad cywir, sy’n dy wthio tuag at dy uchelgais.”


BBC News

Advertisements

See also  Lluniau: Bywyd gwyllt Caerdydd a'r Fro yn yr haf

Check Also

Pum munud gyda'r chwedleuwr Fiona Collins

Cyfle i ddod i adnabod y chwedleuwr proffesiynol, Fiona Collins ychydig yn well. BBC News …

Pum munud gyda'r chwedleuwr Fiona Collins

Cyfle i ddod i adnabod y chwedleuwr proffesiynol, Fiona Collins ychydig yn well. BBC News …

Y trenau newydd gwerth dros £200m sydd prin wedi eu defnyddio am dair blynedd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod TrC wedi “trawsnewid” llinellau rheilffyrdd y Cymoedd drwy …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime