google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Angen i bobl Caerdydd ‘deimlo’n rhan o’r Eisteddfod’ yn 2028

Bydd y brifddinas yn cynnal chwech o gemau twrnament pêl-droed Euro 2028, gyda’r olaf o’r rheiny yn Stadiwm y Mileniwm ar 1 Gorffennaf – dros fis cyn yr Eisteddfod.

Mae lleoliadau awyr agored yng nghanol y ddinas, gan gynnwys caeau Pontcanna a Blackweir, hefyd yn cynnal digwyddiadau cyson fel cyngherddau dros fisoedd yr haf.

Yn 2017 bu’n rhaid i ŵyl gerddoriaeth Tafwyl symud o Gastell Caerdydd i gaeau Llandaf, oherwydd yr isadeiledd oedd ei angen ar gyfer cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y flwyddyn honno.

Wrth siarad yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Betsan Moses fod modd “cydweithio” gyda’r cyngor i ddod o hyd i safle addas.

“Mae’n her bleserus i edrych ar beth yw’r opsiynau, beth sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd cynt, ond hefyd edrych yn wahanol,” meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Ffermydd solar mawr 'yn bygwth dyfodol Amazon Cymru'

Check Also

Police failings in friends’ death on Yr Wyddfa could risk lives, coroner warns

More people could die on remote mountains unless police do a better job in responding …

Gweithiwr oedd yn gamblo ar-lein wedi camddefnyddio £7,000 o arian cyngor

Clywodd y llys fod terfyn credyd cerdyn Deakin ond yn £1, gan bod ei gwaith …

Gianni Infantino: FAW chief Noel Mooney renews call for Fifa president to step down

Infantino faced calls to stand down over the controversial plan – known as the Fifa …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime