google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cleif Harpwood: “Mae eisiau i ni frwydro eto”

Advertisements

Eleni mae’r glasur o albwm ‘Sneb yn Becso Dam gan Edward H Dafis yn nodi 50 mlynedd ers ei rhyddhau.

Yn sgwrsio gyda Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru, dywedodd Cleif Harpwood fod llawer o’r pynciau’r oedd y rocars yn canu amdanynt ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au yn dal i fod yn berthnasol heddiw.

Dros y misoedd diwethaf mae Cleif wedi bod yn rhyddhau senglau newydd sbon ac mae’r caneuon rheiny yn dwyn i gof arddull Edward H, ac hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r un themâu.

Un o’r caneuon newydd yw Ail Chwyldro, ac wrth sôn am y gân eglurodd Cleif:

“Mae hon yn deillio o’n cyfnod ni. Cyfnod fyddai’n cael ei alw’n chwyldro – y chwyldro fawr dros yr iaith ar ddiwedd y 60au a dechrau’r70au.

“Fuon ni, wrth gwrs, ynghlwm â hynny ac roedd cerddoriaeth gyfredol ar y pryd, cerddoriaeth bop yn gyrru’r ymgyrchoedd ‘ma.

“Mae caneuon fel Tŷ Haf ac Yn y Fro a Tyrd i Edrych, maen nhw i gyd yn edrych ar y problemau oedd yn bodoli bryd hynny, a hefyd y frwydr dros statws i’r iaith, a dros yr holl bethau ry’n ni’n cymryd yn ganiataol heddiw.

“Ni wedi cymryd nhw’n ganiataol yn fy marn i a dyna ydi neges y gân mewn gwirionedd: bod eisiau i ni ail-edrych ar hyn ac mae eisiau ni frwydro eto.”


BBC News

Views: 1

See also  Marathon Eryri: Mwy o ferched yn rhedeg ar ben-blwydd y ras yn 40

Check Also

Junior World Championship: Wales U20s ring changes for Uruguay

Victory in Tbilisi would set up a shoot-out with the Junior Boks, who face Georgia …

Ethan Galbraith: Swansea City midfielder poised to join Stoke City for eight-figure fee

Ethan Galbraith is poised to leave Swansea City for Stoke City after the Welsh club …

Cyhuddo dyn 22 oed o lofruddio dyn arall yn Y Trallwng

Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall ym Mhowys dros …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Used to monitor number of google analytics server requests.