google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am wasanethau agosach i bobl sy’n byw gydag MS yng Nghymru

Advertisements

“Oeddwn yn mwynhau gweithio, doeddwn i’m yn barod i orffen gweithio ond wnaeth fy iechyd benderfynu doeddwn methu cario ‘mlaen,” meddai Eirlys.

“[Erbyn hyn] mae bob diwrnod yn heriol i fod yn onest, o drio codi’n y bore.

“Dwi ‘di dechrau hefo cryndod a ti’n cael pinnau yn dy ddwylo, dim teimlad yn dy freichiau ac mae cerdded fel trio cerdded drwy fwd neu tywydd gwlyb.

“Bob symudiad ti’n wneud ti’n cwffio yn erbyn rhywbeth.”

Gyda’r cyflwr yn effeithio ar ei gallu i gerdded ac i symud o gwmpas yn rhwydd, mae hefyd yn golygu ei bod hi’n blino’n haws.

Felly dydy teithio’n bell i weld ymgynghorwyr arbenigol ddim yn hawdd.

Mae ei harbenigwr wedi’u lleoli yn Lerpwl ond yn ei chwrdd hanner ffordd yn Ysbyty Glan Clwyd, Llanelwy.

“Mae teithio yn ei hun yn flinedig,” meddai.

“Am fod rhaid gwneud yr ymdrech i deithio yn y car am ‘chydig oriau, mae hynny’n effeithio ar y cyflwr.

“Mae o’n effeithio ar sut ‘da chi y diwrnod hwnnw, ac ella am wythnos neu fwy wedyn, felly nid dim ond ar y diwrnod yma ‘da chi’n ei deimlo, mae’n gallu eich effeithio am ddyddiau wedyn.

“‘Sa’n gallu bod llawer gwell…mae’r staff yn dda iawn ac i gyd o dan bwysau, ond mae’r cyflwr mor wahanol i bawb fod angen mwy o arbenigwyr i fod yn nes aton ni, ella ym Mangor.”

Yn ôl Eirlys, oherwydd natur y drefn fel mae hi, mae diffyg darpariaeth ar gael yn y Gymraeg hefyd.

“Saesneg ydy’r nyrsys, maen nhw’n dda ofnadwy ond ti methu siarad yn dy iaith gyntaf am beth sy’n mynd ymlaen,” ychwanegodd.

“I mi yn bersonol, fel Cymraes, mae hynny’n bwysig ac yn mynd yn fwy pwysig yr hynaf ti’n mynd dwi’n meddwl.”


BBC News

Views: 0

See also  GP contracts worth £10m awarded without proper checks

Check Also

‘Ambell’ newid i ddod wedi ymateb ‘positif’ i drefniadau’r Eisteddfod

Dywedodd mai nod hynny oedd sicrhau “bod ni yn ‘neud unrhyw addasiadau sydd yn angenrheidiol …

Hannah Brier: Pam na fydd menyw gyflymaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad?

Mae James Williams, Prif Weithredwr Athletau Cymru, yn dweud fod y sefyllfa yn un hynod …

Premier League darts: Jonny Clayton and Gerwyn Price should be proud, says Luke Littler

It was a similar story for Price who was locked in an almighty tussle with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.