google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Seremonïau Urdd: Croesawu newid yr Awenau oedd ‘bach yn Marmite’

Advertisements

Dywedodd Angharad Prys, Swyddog Celfyddydau’r Urdd, fod y penderfyniad i newid wedi dod ar ôl gwrando ar adborth pobl ifanc a chyn-enillwyr.

“Roedd yr awenau ychydig bach yn ‘Marmite’ yng Nghymru – roedd rhai yn eu caru nhw ac eraill ddim mor hoff,” meddai.

“Felly oedden ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig mynd allan i gael barn pobl ifanc. Fe wnaethon ni drafod gyda Fforwm Ieuenctid Môn a gyda chyn-enillwyr y prif wobrau, ac ar ôl tair blynedd o ddefnyddio’r hen ffurf, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n amser trio rhywbeth newydd.”

Dywedodd fod y newid mwyaf amlwg eleni yn gweld y “pennau mawr lliwgar” yn cael eu disodli gan faneri melfed yn cynrychioli pob awen.

“Mae’r faneri’n cynnwys lluniau o’r anifeiliaid sy’n perthyn i bob awen, gyda’r criw ifanc o Theatr Ieuenctid Môn yn eu cario nhw yn ystod y seremonïau,” meddai.

“Roedden ni eisiau cadw’r cysylltiad gyda stori Taliesin a’r symbolaeth wreiddiol, oherwydd mae hynny wedi dod yn rhan bwysig iawn o’r seremonïau dros y blynyddoedd diwethaf.”


BBC News

Views: 0

See also  New parking measures to tackle beach gridlock

Check Also

Cofnodi diwrnod poethaf Mai erioed wrth gyrraedd 32.3C

Yng nghaffi a siop Cletwr yn Nhre’r Ddol, Ceredigion, mae’r ffaith bod yr adeilad yn …

Lluniau: Dydd Mawrth yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Cip ar ddiwrnod arall poeth a phrysur ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe …

World Cup 2026: Ex-Arsenal midfielder Thomas Partey in preliminary Ghana squad

Goalkeepers: Benjamin Asare (Accra Hearts of Oak SC), Lawrence Ati-Zigi (St Gallen), Joseph Anang (St …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Hair cut & beard trim 23. Methylated b12 10mg.