google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrngedau lu i’r Tad Jason Jones – ‘arwr cyfnod Covid’

Advertisements

Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrnged i’r Tad Ganon Jason Jones, offeiriad yn Eglwys Gatholig y Galon Sanctaidd yn Nhreforys, wedi iddo farw yn sydyn yn 56 oed.

Fe ddaeth y Tad Jason, yn wreiddiol o Dremorfa yn Abertawe, i gryn amlygrwydd yn ystod cyfnod Covid.

Yn sgil ei waith fel caplan Ysbyty Treforys roedd galw mawr arno i roi’r ddefod olaf (last rites) wrth ochr gwely cleifion.

“Roedd e’n arwr yn ystod cyfnod Covid a galw mawr am ei wasanaeth,” meddai’r Tad Rod fore Gwener wrth siarad â Cymru Fyw.

“Rwy’n gynorthwy-ydd iddo ac mae ei farwolaeth sydyn wedi llorio pawb yma.

“Ddydd Llun roedd e’n hapus yn dathlu ei ben-blwydd yn 56. Mi oedd e’n berson hynod o weithgar ac roedd gan y gynulleidfa niferus yma feddwl mawr ohono.

“Roedd e’n fentor i mi – yn dad yn y ffydd ond hefyd roedd e fel tad go iawn. I bob pwrpas dwi a’r gynulleidfa yma wedi colli tad. Mae’n galar yn fawr.”


BBC News

Views: 0

See also  Gavin and Stacey mural wall vandalised after just one month

Check Also

Gwaharddiad gwasgaru slyri dros y Gaeaf ‘ddim yn gweithio’ – gweinidog newydd

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai tymhestlog iawn i’r diwydiant amaeth, gan arwain at …

Môn yn barod i groesawu Cymru i Eisteddfod yr Urdd

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn waith caled codi gymaint o bres, £380,000. Mae ‘na bwyllgorau …

Eisteddfod yr Urdd: Sut mae cyrraedd y Maes?

A fyddwch chi yn teithio i Gae Sioe Môn yr wythnos hon ar gyfer Eisteddfod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonrank | free link building tool | automated seo backlinks.