google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bwrdd iechyd heb wirio’n iawn cyn rhoi cytundeb £10m i reoli meddygfeydd

Advertisements

Dywedodd Archwilio Cymru bod trafferthion ariannol y bartneriaeth a throsglwyddo’r meddygfeydd yn ôl “wedi creu tarfu ac ansicrwydd i gleifion a staff”.

Mae hefyd, meddai, angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru cyngor o 2006 o ran delio gyda’r model busnes y mae eHarley Street yn ei ddefnyddio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod “wedi ymateb i Archwilio Cymru yn cydnabod y materion sy’n cael eu codi” ac y byddan nhw’n “adolygu a diweddaru’r canllawiau presennol i adlewyrchu’n well y tirlun gofal sylfaenol modern”.

Yn gynharach eleni, dywedodd eHarley Street bod “tangyllido cronig, fformiwlâu ariannu hen ffasiwn a gweithlu sydd wedi ymlâdd” yng Nghymru, a’u bod wedi gwario “arian personol a phreifat i sefydlogi gwasanaethau a phenodi staff clinigol”.

Dywed Archwilio Cymru bod y bwrdd iechyd wedi newid rhai prosesau comisiynu a chaffael, ond bod angen gwelliannau pellach i osgoi methiannau tebyg.

Ychwanegodd bod y materion yn yr adroddiad “yn berthnasol ar draws Cymru” a bod byrddau iechyd “dan bwysau i gadw gwasanaethau meddygon teulu i fynd mewn marchnad heriol ac, ar brydiau, bregus”.

“Dan yr amodau hyn, mae gwir risg o beidio ag ystyried yn llawn gwytnwch a chapasiti darparwr i roi gwasanaethau dros y tymor hir.

“Mae’n bwysig bod y system yn ehangach hefyd yn dysgu o brofiad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.”


BBC News

Views: 0

See also  County Championship: Handscomb and Hill boost Foxes

Check Also

Brecon man fined for dragging pony tied to a vehicle

Nic de Brauwere, the veterinary expert witness in the case, provided a statement to court, …

Dedfryd arall o garchar i gyn-arweinydd am gam-drin plant yng Ngwynedd

Mae cyn-arweinydd y Cadetiaid Môr wedi cael dedfryd o 15 mlynedd yn y carchar am …

Pryd fydd y polisi i ymestyn gofal plant am ddim yn dechrau?

Dywedodd David Phillips o’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ddydd Mercher fod llywodraeth newydd Plaid Cymru yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elliot wave forecasts.