google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

Advertisements

Mae’r ddau ddyn wedi eu cadw yn nalfa’r heddlu ac mae disgwyl iddynt ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.

Dywedodd uwch swyddog yr ymchwiliad, y Ditectif Uwcharolygydd Steven Maloney: “Mae teuluoedd Jaydon a Tashay yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac mae ein meddyliau’n parhau gyda nhw ar yr adeg anodd hon.”

Ychwanegodd: “Hoffem ddiolch i’r gymuned am eu cefnogaeth wrth i ni barhau i ymchwilio’n llawn i amgylchiadau’r marwolaethau trasig hyn.

“Rydyn ni’n deall y gall adroddiadau o’r fath beri pryder i’n cymunedau.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio drwy’r dydd a’r nos i gasglu ac asesu tystiolaeth ac rydym wedi bod mewn cysylltiad agos â’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron i gyrraedd y ddau benderfyniad cyhuddo hyn.”

“Tra bod ein hymholiadau yn parhau dros y dyddiau nesaf, mae’n debygol y bydd mwy o swyddogion yr heddlu i’w gweld yn yr ardal.”

Cadarnhaodd yr heddlu fod dwy fenyw o Gasnewydd, 24 a 40 oed, a gafodd eu harestio’n gynharach ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi eu rhyddhau.


BBC News

Views: 1

See also  Dan John: Ospreys recruit back after Exeter exit

Check Also

World Cup of Darts 2026: Teams, schedule, prize money, format and how it works

The 2026 World Cup of Darts starts on Thursday, 11 June and lasts for four …

Wolves: Wolves dismiss Rob Edwards after seven months in charge at Molineux

Wolves have sacked head coach Rob Edwards after just seven months following their relegation from …

Gwynedd: Galw am ymddiheuriad dros ‘smonach’ mesurau Erthygl 4

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Speed boat transport. car transport alabama.