google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Achos marwolaeth dynes yn parhau’n ddirgelwch – cwest

Advertisements

Mae patholegydd wedi methu â sefydlu hyd yma beth oedd achos marwolaeth dynes 32 oed a gafodd ei chanfod yn farw ar draeth yn Sir Benfro yn 2024.

Cafodd Sian Stephanie Batchelor ei darganfod ar draeth Pennar yn Noc Penfro ar 30 Ebrill 2024.

Mewn adolygiad cyn-cwest, dywedodd yr Uwch-grwner Gareth Lewis bod patholegydd wedi darparu tri adroddiad meddygol, ond wedi methu â chadarnhau sut y bu farw Ms Batchelor.

Yn ystod y gwrandawiad yn Hwlffordd, dywedodd Mr Lewis y byddai’n rhoi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys bod y llu bellach yn “berson sydd â diddordeb” yn ei ymchwiliad.

Dywedodd y byddai nodi hynny yn galluogi’r heddlu i ryddhau dogfennau ychwanegol allai fod yn berthnasol, ac i ddatrys unrhyw faterion y mae’r teulu yn ei gredu sydd ddim wedi cael digon o sylw hyd yma.

Clywodd y gwrandawiad bod gan ei theulu bryderon am ymchwiliad yr heddlu yn dilyn marwolaeth Ms Batchelor.

Dywedodd y crwner ei fod wedi rhoi ymrwymiad i’r teulu y byddai’n ceisio cwblhau’r cwest erbyn diwedd y flwyddyn.


BBC News

Views: 0

See also  Swansea men not guilty of hitman plot to kill wife

Check Also

‘Dros 1,300 heb dderbyn pleidlais bost mewn pryd’ – Cyngor Caerdydd

Ond mi fydd hi’n rhy hwyr i rai yn y brifddinas, fel prif leisydd Super …

Nel Metcalfe: Wales full-back signs new deal with Gloucester-Hartpury

Wales back Nel Metcalfe has extended her contract with Gloucester-Hartpury beyond the end of this …

Cynyddu dedfryd gweithiwr iechyd am droseddau rhyw mewn ysbyty

Yn yr achos llys yn 2025, cafwyd Crump yn euog o chwe chyhuddiad o ymosodiad …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.