google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Byddai cam-drin yn codi’n sydyn gyda mwy o oriau o ofal plant am ddim’

Mae rhoi mwy o oriau o ofal plant am ddim i rieni wedi dod yn fater arwyddocaol yn etholiad y Senedd eleni.

Mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd yn addo 20 awr am ddim yr wythnos i blant o 9 mis i 4 oed, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo 30 awr yr wythnos.

Mae Llafur yn addo 30 awr yr wythnos i blant tair a phedair oed.

Mae’r Ceidwadwyr yn addo 30 awr o ofal plant neu’r opsiwn i enwebu taid neu nain ar gyfer taliad gofal plant.

Nid yw Reform UK wedi ymrwymo i unrhyw bolisi gofal plant os cânt eu hethol.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru, Heledd Fychan, fod “mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel yn hanfodol i fenywod gael dewis go iawn — boed hynny’n golygu aros gartref, gweithio, neu gydbwyso’r ddau.

“Ni ddylid ystyried gofal plant fel cyfrifoldeb menywod yn unig chwaith ac ni allaf gredu bod yn rhaid i mi ddweud hyn yn 2026.

“Mae safbwyntiau fel hynny’n perthyn yn gadarn i adran deinosoriaid amgueddfa.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y sylwadau “yn peryglu tanseilio’r dewisiadau y mae teuluoedd yn eu gwneud bob dydd.

“Dylid cefnogi rhieni, nid eu barnu, ac mae teuluoedd yn haeddu hyblygrwydd i ddewis yr hyn sy’n gweithio orau iddyn nhw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru “nad oes lle i’r sylwadau hyn yn ein cymdeithas.

“Dim ond enghraifft arall ydyn nhw o Reform eisiau ein llusgo’n ôl i’r gorffennol.

“Mae Llafur Cymru yn canolbwyntio ar y dyfodol, gyda chynnig i ehangu gofal plant a chynlluniau i ymestyn prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd”.

Gofynnwyd i’r Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhyddfrydol am eu hymateb hefyd.

Advertisements




BBC News

Views: 3

See also  Bus delays expected as pay dispute strike starts

Check Also

Dathlu cyfraniad aruthrol pedwar o griw bad achub Porthdinllaen

Ers i Robat ddechrau gyda’r RNLI yn 1988 yn 22 oed, mae wedi gweld newid …

Swansea City post record £21.6m loss for year ending June 2025

Swansea City posted a loss of £21.6m for the year ending June 2025 – a …

Cyhoeddi enw prifwyl 2027 – BBC Cymru Fyw

Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd fydd enw swyddogol y brifwyl y flwyddyn nesaf. Cyhoeddodd y cyflwynydd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime