google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Côr bechgyn Ysgol Glantaf yn serennu ar Britain’s Got Talent

Advertisements

Mae côr ysgol uwchradd o Gaerdydd wedi perfformio ar y rhaglen Britain’s Got Talent.

Roedd beirniaid y rhaglen ITV wedi’u rhyfeddu gan berfformiad Côr bechgyn Ysgol Glantaf o’r gân ‘Never Enough’ o’r ffilm The Greatest Showman nos Sadwrn.

Aeth y côr o 70 o fechgyn, a oedd yn cael eu harwain gan gyn-gystadleuwr yr X-Factor, Lloyd Macey, drwodd i rownd nesaf y gystadleuaeth ar ôl i’r beirniaid godi i’w gymeradwyo yn y clyweliad.

Dywedodd Simon Cowell y dylai’r bechgyn fod yn “falch” o’u cyflawniad, gan ychwanegu bod eu perfformiad wedi ei wneud yn “emosiynol”.

“Roedd hyn yn wych, dyma beth yw côr da – cael hwyl, dewisiadau caneuon gwych, arweinydd gwych,” meddai.

Dywedodd y beirniad arall Amanda Holden fod y bechgyn “wedi gwneud Cymru’n falch ac alla i ddim aros i weld beth ddaw nesaf”, tra bod Alesha Dixon wedi galw Lloyd Macey yn “arweinydd gwych”.


BBC News

See also  Rhun ap Iorwerth thinks he could be next first minister

Check Also

Vitor Matos: More to come from Swansea City despite unbeaten start

Vitor Matos says there is more to come from Swansea City after they moved a …

Vitor Matos: More to come from Swansea City despite unbeaten start

Vitor Matos says there is more to come from Swansea City after they moved a …

Wrexham AFC: Parkinson claims Swansea captain Ben Cabango should have seen red

Cabango missed the ball in the 77th minute challenge and caught O’Hare, who was making …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime