google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Angen dysgu gwersi’ wedi marwolaeth myfyrwiwr o Meningitis B

Advertisements

Roedd Meg yn fenyw ifanc boblogaidd oedd yn mwynhau chwaraeon a’i bywyd cymdeithasol fel myfyriwr.

Ond un noson, fe ddywedodd wrth ei rhieni ei bod yn teimlo’n flinedig a diegni.

O fewn 24 awr, fe wnaeth ei symptomau waethygu, oedd yn cynnwys gwres, cur pen, chwydu a brech.

Cafodd ei chludo gan ei ffrind i uned frys Ysbyty Brenhinol Bournemouth, ond wedi iddyn nhw gyrraedd, dywedodd Helen a Lee fod nyrs wedi “gwasgu botwm na” ar gyfrifiadur pan gafodd ei holi am sepsis, cyn i Meg gael ei gyrru yn ôl i’w llety yn y brifysgol.

Fe yrrodd Helen a Lee o dde Cymru i Bournemouth i fynd â Meg yn ôl i’r uned frys.

“Yn syth, roedd fel ein bod ni’n gwastraffu amser y doctor ac roedd yn eithaf swrth gyda Meg,” meddai Helen.

“Pan oedd hi wedi drysu ac yn methu cofio ei dyddiad geni roedd e wir yn rhwystredig.

“Gofynnodd iddi dair gwaith beth oedd ei dyddiad geni, ac edrychodd arna i ac roedd rhaid i fi ateb.”

Dywedodd Helen fod y meddyg wedi dweud fod y symptomau’n “ddim byd sinistr”, ac y dylai Meg fynd adref i orffwys.


BBC News

Views: 3

See also  Covid inquiry: No advice to test care home patients at pandemic start

Check Also

Welsh rugby crisis: Cardiff used to uncertainty as Y11 takeover deadline looms

Van Zyl says it is business as usual and that his job is to concentrate …

Taine Plumtree’s discipline hurting Scarlets, says Nigel Davies

Plumtree’s latest sin-bin means he has now collected seven yellow cards this season for club …

Dathlu cyfraniad aruthrol pedwar o griw bad achub Porthdinllaen

Ers i Robat ddechrau gyda’r RNLI yn 1988 yn 22 oed, mae wedi gweld newid …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime